07/01/2014

Ai hiraeth sydd ar fai?



Edward H Dafis
Rydw i wedi darllen dau gofnod diddorol iawn dros y dyddiau diwethaf – un gan y Hogyn o Rachub, sydd eisiau ffoi oddi wrth diwylliant ‘arwynebol’ y brifddinas, a’r llall gan Nico Dafydd, sydd eisiau plannu hoelen yn arch yr ‘hen ffordd Gymreig o fyw’.

Poeni mai Nico mai nostalgia sy’n cynnal y Sin Roc Cymraeg, a sawl elfen arall o’n diwylliant, a bod hynny yn ein hatal ni rhag arloesi a chefnogi artistiaid newydd. Mae’n gweld llwyddiant gig Edward H Dafis yn yr Eisteddfod y llynedd yn symptom o hyn - “mae gweld cynifer o bobl ifanc, a thrwch diwylliant iaith Gymraeg Cymru yn pentyrru i ail-fyw gorffennol na fu, yn dorcalonnus”.

Dydw i ddim yn credu mai ‘nostalgia’ sy’n nodweddiadu ein diwylliant - ond yn hytrach ymboeni’n ormodol am bethau sy’n gwbl naturiol mewn unrhyw ddiwylliant mwyafrifol, a lleiafrifol, arall.

Mae gan bawb eu damcaniaethau eu hunain ynglŷn â pham nad yw diwylliant y Gymraeg mor fywiog ag y dylai fod. Ond y gwir yn fy nhyb i yw bod y diwylliant Cymraeg, mewn gwirionedd, yn llawer mwy bywiog nag y ‘dylai fod’ - fe ddylai fod wedi hen farw erbyn hyn. Wrth ystyried tranc ieithoedd lleiafrifol sy’n bodoli ochr yn ochr ag ieithoedd mwyafrifol ledled y byd daw’n amlwg bod y Gymraeg wedi bod yn anhygoel o wydn. Yn hytrach na lladd ar ein hunain am bob methiant fe ddylen ni ddathlu’r ffaith ein bod ni wedi llwyddo cyhyd, ac yn parhau i lwyddo i raddau helaeth.

Dyw hoffi hen fandiau ar draul bandiau newydd ddim yn beth anghyffredin. Dim ond yn yr 80au y daeth Edward H Dafis i ben - ydi obsesiwn y diwylliant Eingl-Americanaidd â’r Beatles, Frank Sinatra, Tom Jones, Elvis, Modonna, a Michael Jackson yn adlewyrchu’r un mor wael arnyn nhw? Ydi’r ffaith bod cannoedd o filiynau wedi heidio i weld y Rolling Stones yn Glastonbury y llynedd yn arwydd bod y Saesneg ar ei ffordd i lawr, a bod talentau newydd yn cael eu mygu?

Dadl Nico yw y dylai’r miloedd a wyliodd Edward H Dafis fod yn heidio i wylio bandiau ifanc, newydd oedd yn chwarae yn Maes B neu gig y Gymdeithas yn lle. Ond y gwirionedd yw bod y rhan fwyaf o fandiau ifanc, newydd yn crap - mae hyn yn wir yn y Gymraeg a’r Saesneg. Torfeydd bychan iawn sy’n tueddu i drafferthu mynd i’w gweld nhw. Dros y degawdau mae ambell i hen ffefryn yn dal i fynd, yn ennill dilyniant, ac weithiau mae marwolaeth y band hyd yn oed yn hwb i’w poblogrwydd - yr ‘effaith Van Gogh’.

Roedd sawl rheswm pam y heidiodd 8,000 o bobl i weld Edward H Dafis yn yr Eisteddfod y llynedd (doeddwn i ddim yn un ohonyn nhw, gyda llaw). Yn gyntaf, roedd y band wedi treulio degawdau yn ennill dilynwyr, hen a newydd. Yn ail, roedd y gig wedi ei hepio i’r cymylau ar y we a gan ymdriniaeth teledu'r BBC. Y trydydd rheswm yw bod Edward H Dafis yn fand â tiwns da, cofiadwy, llawer gwell na’r rhan fwyaf o fandiau Cymraeg eraill.

Ond dydw i ddim yn credu bod y rhan fwyaf o bobl yno yn malio cymaint â hynny am y gig ei hun. Eilbeth oedd hynny. Y prif reswm, a’r rheswm y mae pobl yn mynd i’r Eisteddfod yn fy marn i, oedd cael teimlo eu bod nhw’n rhan o rywbeth mwy. Y cyfan oedd y gig oedd esgus i deimlo eu bod nhw’n perthyn i gymuned o bobl fel nhw. Roedd gig gan Edward H Dafis, oedd yn apelio i’r hen a’r ifanc fel ei gilydd, yn un o’r ychydig bethau allai gyflawni hynny.

Wrth gwrs, mewn 30 mlynedd efalai y bydd un o'r bandiau ifanc oedd yn chwarae ym Maes B y noson honno yw diddanu torf o 8,000 ar faes yr Eisteddfod. A bydd rhywun yn siwr o gwyno bod y Cymry Cymraeg yn byw yn y gorffennol bryd hynny, hefyd.

Rydw i’n deall dadl Nico, ond yn anghytuno bod ymddiddori yn y gorffennol yn nodweddiadol o’r Gymraeg o gwbl. Peth ‘ephemeral’ iawn fu  ein diwylliant erioed, o’r beirdd ganrifoedd yn ôl oedd yn amharod iawn i nodi unrhyw beth i lawr ar bapur (da ni wedi colli bron a bod y cyfan erbyn hyn), i’n Eisteddfod fodern sy’n defnyddio gorsedd blastig fel nad oes rhaid iddyn nhw adael hyd yn oed y smotyn lleiaf o dystiolaeth o’u bodolaeth ar eu holau. Mae siaradwyr yr iaith yn tueddu i fod yn eithaf anwybodus o’u hanes diwylliannol. Roedd gan Gymry Cymraeg Oes Fictoria fwy o ddiddordeb yn achau'r Brenin Dafydd na’u hanes cenedlaethol eu hunain. Yn yr oes fodern mae hanes yr iaith Gymraeg ym meddyliau nifer yn dechrau â Trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo”. Dyna pam bod angen paentio ‘Cofiwch Dryweryn’ ar wal ger Llanrhystud - mae fel ‘post it’ note cenedlaethol i hybu’r cof. Rydyn ni i gyd yn arbenigwyr ar hanes Prydain, a hyd yn oed yr Unol Daleithiau, a hanes Ffrainc a gwledydd Ewropeaidd eraill. Mae holl hunaniaeth Prydain wedi ei seilio ar Ymerodraeth a ddaeth i ben 100 mlynedd yn ôl. Ond does bron i ddim trafodaeth ymysg Cymry Cymraeg ynglŷn â hanes yr iaith, a’r rhesymau economaidd a chymdeithasol pam y cafodd yr iaith ei hun yn y twll yma yn y lle cyntaf. Teg dweud, pe bai siaradwyr Cymraeg yn talu mwy o sylw i’w gorffennol, efallai y bydden nhw’n fwy parod i ddeall heriau’r presennol.

Mae'r iaith ei hun, wrth gwrs, yn ddolen i'r gorffennol. Dyna sy'n rhoi'r fath rym iddo, a dyna pam ei fod mor bwysig ei gynnal - fel bod trysorau miloedd o flynyddoedd o orffennol yn parhau'n hygyrch i ni. Mae'r gallu i edrych yn ôl a gwerthfawrogi'r trsyorau rheini yn beth da - heb fod dan ddylanwad ein gorffennol fydd yna ddim byd unigryw am gynnyrch diwylliannol ein dyfodol. Fel arall, waeth i ni gyd siarad Esperanto ddim.

31/12/2013

Yr Urdd, Urddo, a'r Frenhines


Cynan yn urddo'r Frenhines


Rhaid cyfaddef fy mod i wedi fy siomi braidd gan barodrwydd ambell un o hoelion wyth ein diwylliant i fynd i Loegr i gwrdd â’r Frenhines. O fewn y pythefnos diwethaf cafwyd wybod bod yr Archdderwydd Christine James wedi bod draw i Balas Buckingham, a heddiw clywyd bod Prif Weithredwr yr Urdd Efa Gruffudd Jones wedi derbyn MBE.

Does gen i ddim unrhyw fath o gasineb personol tuag at unrhyw aelod o’r Teulu Brenhinol. Maen nhw’n gwneud swyddogaeth digon diflas yn fy marn i, yn enwedig y Frenhines a ddylai fod wedi cael ymddeol degawdau yn ôl. Dydw i ddim chwaith yn ei beio hi oherwydd bod ei 1000x hen-dad-cu wedi torri pen Tywysog olaf Cymru i ffwrdd. Brenhinoedd yn brwydro am diriogaeth oedd y rhain, ac fe fyddai Tywysogion Cymru wedi gwneud yn union yr un fath i frenhinoedd ac arglwyddi Lloegr pe bai modd iddynt.

Serch hynny rydw i’r credu bod Teulu Brenhinol bellach yn anacroniaeth ac wedi ei ddarostwng yn ddim mwy nag arf PR er mwyn hybu buddiannau’r rheini sydd am reoli ein cymdeithas. Mae gan 'bennaeth ein gwladwriaeth' lai o rym na bron i bawb arall yn y wlad - mae'n cael ei thywys o le i le i ysgwyd llaw â hwn a'r llall. Nid yw ei Hymerodraeth Prydaeinig bellach yn bodoli, ac roedd yn beth digon atgas tra’r oedd yn bod, felly wela i ddim pam y byddai unrhyw un yn teimlo bod cael bod yn aelod ohono yn anrhydedd.

Roedd trydariad gan Aelod Cynulliad Ceredigion, Elin Jones, yn crynhoi teimladau nifer ar y pwnc:


“Methu credu fod menyw ddawnus, ifanc Gymreig yn meddwl fod yna werth bod yn Member of the British Empire yn 2014.”


Mae Christine James wedi ceisio wfftio’r feirniadaeth am ei hymweliad hithau â Phalas Buckingham drwy ddweud:


“Yn bersonol doeddwn i ddim yn gweld problem gyda’r peth. Hynny yw, roeddwn i’n gweld e’n wahoddiad gan bennaeth gwladwriaeth – tasen ni wedi cael gwahoddiad gan bennaeth gwladwriaeth Ffrainc, neu beth bynnag, bydden ni wedi bod yn falch iawn o fynd â’r gore o farddoniaeth Gymraeg yno.”


Alla i ddim credu ei bod hi wir wedi meddwl bod derbyn gwahoddiad gan Frenhines Lloegr yr un fath a mynd i weld Arlywydd Ffrainc. Mae’r ddwy yma yn nabod Cymru yn ddigon da i wybod y byddai plygu glin i’r Cwîn yn ennyn y fath ymateb, ond wedi penderfynu gwneud hynny beth bynnag. Pam felly?

I raddau mae penderfyniad Efa Gruffudd Jones yn gwneud mwy o synnwyr. Wedi’r cyfan derbyn yr anrhydedd yn rhinwedd ei swydd mae hi. Anrhydedd i’r Urdd yw hi yn y bôn, er mwyn adnabod gwaith da'r mudiad. Ond wedi dweud hynny alla i ddim dychmygu bod nifer o’r rheini sy’n ymwneud a’r mudiad eisiau cael eu cysylltu ag ymerodraeth Prydain, chwaith.

Ond dydw i ddim yn gweld ryw lawer o gyfiawnhad o gwbl am ymweliad yr Archdderwydd â Phalas Buckingham. Dywedodd Christine James mai’r bwriad oedd “dathlu’r ffaith bod barddoniaeth fel cyfrwng yn ffynnu ym Mhrydain ar hyn o bryd”. Wrth gwrs fe ddigwyddodd y dathliad hwn ar 19 Tachwedd ac ni chafodd y byd wybod nes 20 Rhagfyr. Os mai tynnu sylw at gryfder barddoniaeth Brydeinig oedd y nod, pam cadw’r peth dan eich het archdderwyddol am fis cyfan?

Rydw i’n aelod o’r Orsedd a’r syniad yn fy nhyb i oedd ei fod yn system anrhydeddau oedd yn bodoli ochr yn ochr ag un Lloegr, yn hytrach na bod islaw iddo. Drwy fynd i Balas Buckingham a chyrtsio i’r Frenhines mae’r Archdderwydd wedi awgrymu nad yw hynny’n wir. Efallai mai fel Christine James y bardd yr aeth hi yno, ond allai hi ddim stopio bod yn Archdderwydd am noson dim mwy na y mae’r Pab yn gallu rhoi’r gorau i fod yn Bab am noson, neu’r Prif Weinidog y Prif Weinidog. Mae mynd i Balas Buckingham yn Archdderwydd a chyrtsio i’r Frenhines (fel sydd rhaid i bob un sy’n ei chyfarfod hi wneud) yn gosod cynsail anffodus yn fy marn i.

“Does dim problem… a dweud y gwir mae’r Frenhines yn aelod o’r Orsedd,” meddai Christine James.

Mae hynny’n wir ond fe ymunodd 1946, ond roedd hwnnw’n oes wahanol. Doedd y Frenhines ddim yn Frenhines. Roedd yr Eisteddfod yn parhau i fod yn un ‘frenhinol’ ac agwedd y Cymry Cymraeg yn llai gweriniaethol. Ac wedi’r cwbl dim ond Urdd Ofydd y cafodd Elisabeth... hynny yw, yr haen isaf o’r tair sydd ar gael.

Yr unig esboniad alla i feddwl amdano yw eu bod nhw ill dwy wedi gwirioni at gael eu gwahodd i gwrdd â’r Frenhines, ac wedi derbyn er gwaethaf yr ymateb anochel! Ond hoffwn i gael gwybod os oes esboniad arall am y peth - wedi'r cwbl dydyn ni heb glywed ochr Efa Gruffudd Jones o'r stori o gwbl.

Ond fel arall; bring back Robyn Lewis, all is forgiven. :P

17/10/2013

Cenedlaetholdeb a’r wasg


Arlwy y Scotsman
Un cwyn sydd i’w glywed yn aml gan y rheini sy’n brwydro o blaid annibyniaeth yn yr Alban yw bod y cyfryngau yn chwyrn yn eu herbyn nhw. Mae papur newydd y Scotsman, yn ogystal â’r cyfryngau Llundeinig, yn gwrthwynebu annibyniaeth. Mae ambell un hyd yn oed yn honni bod ymdriniaeth y BBC o’r pwnc wedi bod braidd yn unochrog, fel pe bai eu newyddiadurwyr (ar lefel isymwybodol o bosib) yn ofni a fydd eu swyddi nhw yn y fantol petai Alba yn gwahanu o weddill y Deyrnas Unedig.
 
Mae hyn yn amlygu tueddiad eithaf od ymysg cenedlaetholwyr – sef cydnabyddiaeth bod y wasg yn eu herbyn nhw, a bod y wasg yn ddylanwadol iawn wrth liwio barn y cyhoedd, ond amharodrwydd i wneud ryw lawer ynglŷn â hynny. Maen nhw’n canolbwyntio eu holl ymdrechion ar ennill grym gwleidyddol ond ddim rhyw lawer ar reoli allbwn y cyfryngau.

Yng Nghymru mae’r sefyllfa hyd yn oed yn fwy rhyfedd - mae cenedlaetholwyr yn cwyno ar un llaw am ogwydd y Western Mail, ond ar y llaw arall bod gwagle mawr yn y cyfryngau yng Nghymru sydd heb ei lenwi gan unrhyw un. Does yna’r un gwasanaeth newyddion cenedlaethol yng Nghymru. Mae’r Western Mail yn honni bod yn bapur cenedlaethol, ond nid yw ei ddylanwad yn lledu ymhell y tu hwnt i ffiniau Sir Gâr. Cangen o gorff Prydeinig yw BBC Cymru ac mae’r rhy ddiduedd i fynegi barn naill ffordd neu’r llall ar ddyfodol Cymru.

Pam felly nad yw cenedlaetholwyr yn llenwi’r gwagle amlwg sydd i’w gael yn y cyfryngau yng Nghymru? Un ateb o bosib yw eu bod nhw wedi canolbwyntio eu hegni ar geisio sicrhau bod papurau newydd, cylchgronau a gwefannau Cymraeg ar gael, ac felly yn anwybyddu'r angen am bapurau newydd, cylchgronau a gwefannau cenedlaetholgar Saesneg.

Mae’n siŵr y gellid dadlau bod y Gymraeg wedi bod yn rywfaint o fwrn ar genedlaetholdeb dinesig Cymreig yn gyffredinol, ond fel un sydd ddim yn credu bod pwynt i genedlaetholdeb heb ddiwylliant unigryw yn sail iddo dydw i ddim am wneud hynny.

A fyddech chi yn cyfrannu arian tuag at sefydlu papur newydd Saesneg, ar yr amod bod ei ogwydd golygyddol yn un cenedlaetholgar? Rwy’n teimlo y byddai yn fuddsoddiad gwerth chweil i genedlaetholwyr - yn enwedig fel nad yw Cymru yn ei chael ei hun yn yr un twll a chenedlaetholwyr yr Alban pan ddaw’r amser, â phob ffynhonnell newyddion yn eu herbyn.