Gwegomics ...


Dim byd arbennig o uchel ael ar bnawn Llun. Mae gan y we Gymraeg bron bopeth sy’ gan y we Seasneg, ond bod llai ohonyn nhw wrth gwrs – gwefannau newyddion, blogiau, fforymau trafod. Ond yr un peth sydd ar goll yw’r Gwegomig!
Dw i wedi fflyrtan nawr ac yn y man gyda’r syniad o greu un, ond dw i braidd yn fyr o’r amser a’r egni fyddai ei angen i feddwl am syniad ffraeth / tynnu llun o safon / sganio fo a’i uwclwytho i’r we, ar ddiwedd diwrnod o lafur caled.
Felly, yn y gobaith o ysbrydoli rywun sy’n ddi-waith / fyfyriwr / dioddef o insomnia dyma fy hoff gwegomigau ar y we...
Un comig sy’n profi nad oes angen dawn darlunio yw XKCD. Mae o wedi mynd lawr allt braidd yn ddiweddar a’r syniadau wedi mynd yn ail-adroddus. Ond bob hyn a hyn mae yna gomig yn ymddangos sy’n rhoi mewnwelediad unigryw i frwydr dyddiol dyn yn erbyn y cyfrifiadur.



Yr ail yw Perry Bible Fellowship. Wnes i ddarganfod y comig yma ychydig flynyddoedd yn ôl pan oeddwn i yn y coleg. Mae’n swrrealaidd iawn, ond yn hynod o ddoniol yr un pryd. Mae o wedi cau i lawr erbyn hyn, ac mewn ffordd dw i’n falch ei fod o wedi gwneud ar ei anterth cyn iddo fynd yn rhy ailadroddus. Mae’n tueddu i gyfosod sefyllfa ddiniwed a hapus gyda dadleniad erchyll bob tro. Ond mae'r darlunio yn wych ac yn newid steil yn bron bob comig.




Newydd ddarganfod hwn ydw i ond dw i eisoes wedi cael hwyl mawr yn darllen drwy’r hen gomigau. Mae Hark! A Vagrant yn cyflwyno cymeriadau hanesyddol gyda tro doniol. Dw i’n arbennig o hoff o’r modd y mae’r arlunydd yn darlunio’r golwg ar wynebau’r cymeriadau. Mae'r comigau braidd yn hir i'w cynnwys fan hyn, felly cliciwch ar y ddolen i gael golwg arno. Joio!

Comments

  1. Diolch am Hark! A Vagrant. Newydd i fi: dyna fy nghynlluniau ar gyfer hanner awr nesa fy mywyd wedi'u sortio.

    Dw i wrth fy modd efo xkcd. Cwpl o rai eraill gwych: www.qwantz.com (sy'n defnyddio union yr un darluniau bob tro) a www.jesusandmo.net

    ReplyDelete
  2. Aye mae'r hen Dinosaur Comics yn un da! Ddim yn gyfarwydd gyda jesus and mo, ga'i olwg nawr.

    ReplyDelete

Post a Comment