Lleidr yn y nos...

Pan oeddwn i yn y coleg roedd gen i ddiddordeb mawr mewn creu gemau cyfrifiadur. Ro’n i’n medru creu ambell i gêm ‘platformer’ 2D fy hun bach, ond roeddwn i hefyd yn hoffi creu mwy o gynnwys ar gyfer gemau oedd yn bodoli yn barod.

Fy hoff gêm erioed yw Thief II: The Metal Age. Rydw i wrth fy modd gyda lleoliad y gêm, sy’n ryw fath o fyd ‘steampunk’ sy’n cyfuno ffantasi canol oesol gyda pheiriannau o’r Oes Fictoraidd. Yn wahanol i nifer o gemau o’r un cyfnod roedd o’n gofyn am dipyn o feddwl i’w chwarae yn hytrach na’r gallu i saethu popeth a ddaw o fewn 10 llath gyda shotgun. Mae’n swnio’n ddiflas, ond doedd dim byd mwy cyffrous na chuddio mewn darn o gysgod yn disgwyl i’r gard yna gerdded heibio, wrth weddïo i Dduw na fyddai’n fy ngweld na fy nghlywed i yn dwyn ei bwrs. Roedd modd torri’r tensiwn gyda chyllell.

Yr un peth sy’ gan rywun lot ohono yn y coleg (yn ogystal â hangovers wrth gwrs) yw amser. Felly roeddwn i’n treulio oriau maith yn ymwneud a dau brosiect yn y gymuned Thief. Roedd y cyntaf, The Hammerite Imperium, yn gyfres o tua 10 lefel newydd ar gyfer Thief II, wedi ei leoli yn y gorffennol pell ac yn ymwneud a’r hanes y tu ôl i’r gêm wreiddiol.

Roedd yr ail, The Dark Mod, yn ymdrech i ddiweddaru Thief II ar beiriant Doom 3. Roedd o’n ymateb i siom y gymuned pan gafodd Thief III: Deadly Shadows ei ryddhau yn 2004. Barn y gymuned Thief oedd bod y gêm wedi ei greu yn bennaf ar gyfer y farchnad X Box, ac yn gam yn ôl o Thief II. Be oedd ei angen, felly, oedd Thief II ond mewn peiriant newydd sbon.

Unwaith daeth fy amser yn y coleg i ben doedd gen i ddim cymaint o amser i botsian gyda chreu gemau cyfrifiadur ac felly dw i heb gyfrannu dim byd at y ddau brosiect ers sbel. O beth ydw i'n ei ddeall fe wnaeth y Hammerite Imperium grwydro o amgylch y gymuned Thief fel plentyn amddifad am ychydig flynyddoedd tan i dîm o godwyr o Rwsia orffen y gwaith. Ro’n i’n falch o weld bod y lefel cyntaf, o leia’, wedi ei ryddhau mis Mai eleni. Mae modd ei lawr lwytho fan hyn.

Doeddwn i heb glywed dim am yr ail brosiect ers dros flwyddyn, ond ges i sioc heddiw pan wnes i gwglo’r prosiect ar hap yn llwyr a darganfod ei fod o wedi ei ryddhau Dydd Sadwrn! A chwarae teg iddyn nhw, mae fy enw i'n cuddio yn y rhestr o bobol wnaeth gymryd rhan. Felly os oes gennych chi gopi o Doom 3 ar eich cyfrifiadur fe fyddai’n werth cael cip arno. Dw i heb gael cyfle i’w drio eto, ond fe fydd yn ddiddorol gweld beth fydd ymateb y gymuned Thief. Mae peiriant Doom 3 yr un mor hen nawr ag yr oedd peiriant Thief II pan ddechreuodd y prosiect!

Comments