Cwpan Rygbi'r Byd 2011


Fe fydd Cymru yn ennill Cwpan Rygbi'r Byd 2011. Ie, fe wnes i wylio’r perfformiad dydd Sadwrn. Ond rydw i wedi edrych i mewn i fy mhelen (siâp wy) crisial a gweld y dyfodol.

Dyma sut mae’r grwpiau yn edrych ar hyn o bryd:

Grŵp A: Seland Newydd, Ffrainc, Tonga, Canada, ac mae’n siŵr Japan

Grŵp B: Yr Ariannin, Lloegr, Yr Alban, a dau sildyn arall o rywle

Grŵp C: Awstralia, Iwerddon, yr Eidal, tîm o Ewrop ac mae’n siŵr Unol Daleithiau America

Grŵp D: De Affrica, Cymru, Fiji, Samoa, a Namibia mae’n siŵr

Nawr ‘te, bydd rhaid i Gymru ennill yn erbyn De Affrica yn grŵp D. OK, mae hwnna’n ‘os’ mawr, ond mae o’n bosib. Gyda sgrym digon cryf fe allai Cymru ei gwneud hi. Nid am eu bod nhw eisiau dod yn gyntaf yn y grŵp - rhaid osgoi hynny ar bob cyfrif. Ond am eu bod nhw’n siŵr o wneud smonach ohoni yn o leiaf un o’u gemau yn erbyn Samoa a Fiji. Roedd y gêm yn erbyn Samoa ar y penwythnos yn profi hynny, a chofiwch y bydd y brodorion o ynysoedd y Môr Tawel yn chwarae gartref i bob pwrpas. Bydd De Affrica yn rhoi 70 pwynt ar y ddau dîm ac yn ennill y grŵp yn hawdd, gyda Chymru’n ail.

Bydd Seland Newydd yn ennill Grŵp A. Bydd rhai yn awgrymu wrth gwrs bod y gêm yn erbyn Ffrainc yn upset waiting to happen. Ond daliwch eich dŵr, mae yna ffawd dywyllach na’u crysau duon yn eu disgwyl nhw’n hwyrach yn y gystadleuaeth.

Bydd Lloegr yn curo grŵp B. Ie, ie, maen nhw wedi bod yn chwarae yn ofnadwy yn ddiweddar ac mae’r Ariannin yn yr un grŵp. Ond oherwydd diffyg amser chwarae gyda’i gilydd mae’r Ariannin yn dechrau’n araf a gwella wrth i’r gystadleuaeth fynd yn ei flaen, a’r gêm yn erbyn Lloegr yw eu gem gyntaf nhw.

Gallai Grŵp C fynd y naill ffordd, fel yr odd y gêm gyfartal yn Croke Park ddoe yn ei brofi. Ond o ystyried bod Awstralia’n griw ifanc, a bod cenhedlaeth aur Iwerddon yn dechrau estyn am eu ffyn cerdded, dwi’n creu mai Awstralia eith a hi.

Ma hynny’n ein gadael pethau fel hyn:

Enillydd grŵp C: Awstralia
Ail Grŵp D: Cymru

Enillydd Grŵp B: Lloegr
Ail Grŵp A: Ffrainc

Enillydd Grŵp D: De Affrica
Ail Grŵp C: Iwerddon

Enillydd Grŵp A: Seland Newydd
Ail Grŵp B: Yr Ariannin

Nawr, ni’n gwybod ein bod ni'n medru maeddu Awstralia. Dyna’r un tîm o'r Tri Mawr mae gyda ni record eitha’ parchus yn ei erbyn. Fydd yna ddim ofn gan Gymru fan hyn.

Mae Ffrainc yn dîm gwych ond dydyn nhw ddim yn medru curo Lloegr am ryw reswm. Fe alla’n nhw chwalu Cymru yn y Stade de France ac wedyn colli eu pennau’n llwyr yn erbyn y rhosyn coch yr wythnos nesa’. Wele’r Chwe Gwlad eleni, y Chwe Gwlad y llynedd, y Cwpan y Byd yn 2007, a’r Chwe Gwlad y flwyddyn honno.

Bydd De Affrica yn maeddu Iwerddon a Seland Newydd yn fuddugoliaethus yn erbyn yr Ariannin.

Felly yn y semis fe fydd Cymru v Lloegr a De Affrica v Seland Newydd. Fe allai Cymru faeddu Lloegr yn weddol ddiffwdan.

Yn y cyfamser bydd cyfryngau hemisffer y de, sydd erioed wedi clywed y gair hubris, yn penderfynu mae’r semi rhwng De Affrica a Seland Newydd yw’r ffeinal mewn gwirionedd. Bydd Seland Newydd yn ennill honno ac yna, wrth gwrs, Cwpan y Byd 2011.

Ond rydym ni i gyd yn gwybod bod Seland Newydd yn dîm anlwcus pan mae’n dod at Gwpanau'r Byd. A beth yn y byd fyddai’n fwy anlwcus na cholli yn erbyn tîm sydd heb eich curo chi am 60 mlynedd, yn ffeinal Cwpan y Byd, ar eich tir eich hunain?

Bydd y Crysau Duon yn crebachu fel rhedynen arian a’r Cymry yn mynd a hi.

Huzzah!


Comments