Nofel a marathon



Rydw i ar ganol sgwennu fy ail nofel ar hyn o bryd. Dw i wedi cyrraedd tua hanner ffordd, ac yn gobeithio ei gorffen hi erbyn tua mis Ebrill ffor ‘na.

Yn ogystal ag ysgrifennu nofelau dw i’n hoffi rhedeg marathonau. Mae’r ddau beth yn eithaf tebyg yn fy nhyb i. Maen nhw mor hir a caled dych chi’n teimlo tua thri chwarter ffordd drwyddo na ddewch chi byth i ben a hi. Da chi’n diawlio eich hun am gytuno i wneud y peth yn y lle cyntaf.

Dw i wedi rhedeg dau farathon, y ddau yng Nghaeredin. Roedd yr ail dro, ym mis Mai eleni, yn lot anoddach na’r tro cyntaf. Roedden y trefnwyr wedi digwydd dewis un o ddyddiau poetha’r flwyddyn ar gyfer y ras, ac o ganlyniad i hynny fe wnaethon nhw redeg allan o ddŵr (yn llythrennol) tua hanner ffordd drwyddo. Roedd hynny’n golygu mod i’n rhedeg, neu hercian fel sombi, am tua 13 milltir, wrth i redwyr eraill ddisgyn fel dominos o boptu i mi. Fe wnaeth o wneud peth uffernol o anodd yn anoddach fyth.

Rydw i wedi lleoli fy ail nofel mewn cyfnod hanesyddol, a dw i’n teimlo braidd fel fy mod i wedi penderfynu rhedeg marathon heb ddŵr. Neu lynu darnau mawr o blwm ar waelod fy sgidiau, o leia’. Mae pob cam yn anoddach, achos bob tro dwi’n sgwennu rhywbeth rhaid i fi sticio fy mhen mewn llyfr i tsecio bod o’n gywir.

O gymharu â hynny mae sgwennu ffantasi fel gwneud marathon ar sgidiau sglefrio.

Ond fel rhedeg marathon, unwaith yr wyt ti wedi dechrau sgwennu nofelau, mae’n anodd rhoi’r gorau iddi. Mae unrhyw beth llai, fel stori fer neu hanner marathon, yn teimlo fel cam yn ôl.

Mae o werth o yn y diwedd. Dw i’n falch mod i wedi rhedeg y ddau farathon ‘na. A dw i’n siŵr y byddai’n falch unwaith ydw i’n gweld y nofel newydd ‘ma ar y silff. Ond wna i byth redeg marathon ar ddydd poeth heb ddŵr eto.

A nofel hanesyddol? Dim ffiars o beryg.

Comments