Degawd newydd...


Dyma fi’n ôl. Mae’n ddrwg gen i am ddiflannu am dros fis cyfan, ond mae gen i esgus reit dda. Dechrau mis Rhagfyr fe wnes i symud tŷ o Aberystwyth i Benrhiwllan ger Llandysul, a dim ond ddoe mae cwmni Orange wedi dilysu ein cysylltiad band eang. Problem gyda’r eira, meddai nhw, ond blaw bod y rhyngrwyd wedi bod yn styc ar un o hewlydd cefn Ceredigion rywle dyw’r esgus ddim yn dal dŵr rywsut.

Dim blog i siarad am fy mywyd personol yw hwn ond fe ges i newyddion trist dros y flwyddyn newydd. Roedd Macsen fy annwyl gath wedi marw. Roedd Macsen yn un o brif gyfranwyr fforwm drafod Maes-e am flynyddoedd (gyda thipyn o help gan ei berchennog, roedd ei bawennau o’n rhy fawr i daro’r bysellfwrdd gydag unrhyw gywirdeb). Dw i ddim yn meddwl fyddai’n gallu cyfrannu at Maes-e eto dan enw Macsen heb deimlo pwl o hiraeth amdano.

Beth bynnag, y diwrnod ar ôl i Macsen adael y byd ges i’r newyddion fy mod i’n mynd i fod yn dad am y tro cyntaf. Felly dyna drosiad cawsiog am farwolaeth un degawd a genedigaeth un newydd i chi. Neu os ydach chi’n Fwdhydd, awgrym bod Macsen wedi ei ailymgnawdoli, neu ei ailflewogi, mewn rhyw ffordd... hmmm...

Beth sydd gan y flwyddyn newydd i’w gynnig felly? Wel, blaw am ddim cwsg ar ôl tua mis Awst ffor ‘na, bydd y gwaith caled yn parhau ar Golwg 360 dan arweiniad ein cyfarwyddwr newydd llawn egni a syniadau, Owain Schiavone. A gobeithio bydd fy ail nofel yn cael ei ryddhau, hefyd. Dw i wedi bod wrthi fel lladd nadroedd dros y Nadolig yn ceisio ei gorffen hi, felly tua mis Awst mae’n siwr fyddai’n tyrchu mewn pentwr o garpiau drewllyd (yr adolygiadau, dim y clytiau!)...

Comments