Faint sy’n darllen?


Roedd diwrnod Pethau Bychain yr wythnos diwethaf wedi codi cwestiwn diddorol yn fy meddwl i, a meddwl Catrin Beard mae’n debyg, sef faint yn union o bobol sy’n darllen stwff Cymraeg ar y we.

Fel prif is-olygydd gwefan Golwg 360 ac awdur yn fy amser sbâr, mae hwn yn gwestiwn sydd wedi codi yn fy meddwl i yn amlach yn ddiweddar. Faint o bobol sy’n darllen y gwaith ydw i’n slafio drosto ddydd ar ôl dydd?

Oes pwynt i gannoedd o bobol wneud y pethau bychain ar y we os ydi’r rheini wedi eu hanghofio'r diwrnod wedyn a neb yn eu darllen nhw?

Dwi’n gwybod nad nifer darllenwyr ydi popeth - nid Dan Brown a JK Rowling ydi awduron gorau’r byd o bell ffordd. Ond os ydyn ni am fesur llwyddiant y rhithfro mae’n rhaid rhoi ystyriaeth i faint sy’n darllen yn ogystal â faint sy’n creu deunydd ar ei gyfer.

Dydw i ddim yn trafferthu mesur nifer y darllenwyr ar y blog yma am nad ydw i’n ei ddiweddaru’n ddigon aml. Pan oeddwn i’n arfer mesur roeddwn i’n tueddu i weld sbeic o ryw 25 o ddarllenwyr bob tro yr oedd cofnod newydd, a dyna ni. Pe bawn i’n ei ddiweddaru’n fwy aml efallai y byddai nifer y darllenwyr yn fwy cyson.

Yr unig flogiwr wyddwn i amdano sy’n cyhoeddi nifer ei ymwelwyr ydi BlogMenai, sy’n denu tua 6,500 o ddarllenwyr bob mis ar gyfartaledd (gan ystyried bod nifer y darllenwyr yn syrthio rywfaint ar bob gwefan yn ystod yr haf). Fe fyddwn i’n dychmygu mai ef yw un o’r blogwyr Cymraeg mwyaf poblogaidd o bellffordd ac yn denu sawl darllenydd di-Gymraeg hefyd.

Mae nifer y darllenwyr ar Golwg 360 bellach yn croesi 3,000 y diwrnod, ac wedi cynyddu yn ddi-ffael ers y dechrau.

Ond prin iawn fel arall ydi’r blogwyr a pherchnogion gwefannau Cymraeg sy’n fodlon datgelu faint o ddarllenwyr y maen nhw’n eu denu. Mae’r un peth yn wir i raddau am lyfrau. Rydan ni’n cael rhestr o’r gwerthwyr gorau ond byth faint yn union y maen nhw wedi gwerthu.

Heddiw fe es i nol drwy fy hen lythyrau gan yr Lolfa er mwyn tsecio faint yn union oedd Igam Ogam wedi ei werthu ers cael ei ryddhau dechrau Awst 2008. Yn anffodus doeddwn i ddim yn gallu dod o hyd i’r cofnodion cynharaf, ond rydw i’n cofio bod gwerthiant yn y miloedd ar filoedd yn y misoedd cyntaf. Erbyn hyn mae tua 50-100 copi yn cael ei werthu bob tri mis.

Ond rhaid derbyn bod enillydd un o wobrau’r Eisteddfod yn debygol o werthu lot mwy nag nofelau eraill. Rydw i’n prynu Gwobr Goffa Daniel Owen a’r Fedal Ryddiaith bob blwyddyn, beth bynnag eu cynnwys, a dw i’n siwr bod sawl un arall yn gwneud yr un fath. Fe fydd hi’n ddiddorol gweld sut beth fydd gwerthiant Yr Argraff Gyntaf, gafodd ei ryddhau dechrau’r mis yma.

Dyma sylw diddorol ar flog Chris Cope gan Bethan Gwanas, un o’r nofelwyr sy’n gwerthu orau yn y Gymraeg:

Chris, coda dy galon. Dwi newydd gael siec breindal o £7.61 gan Wasg Gwynedd - am werthiant 2 lyfr dros y 12 mis diwethaf. A dwi i fod yn un o'r gwerthwyr gorau yng Nghymru! Roedd y sieciau am nofelau ( gan weisg eraill) yn llawer gwell diolch byth, ond 2 lyfr ffeithiol oedd rhain: 'Ar y Lein Eto' ac 'Ar y lein eto fyth.'

Rhesymau dros ddiffyg gwerthiant (rhai rhesymau yn berthnasol i mi'n unig, ond yn rhoi syniad i ti o be ydi'r byd llyfrau yng Nghymru):

1.) Dyw llyfrau teithio Cymraeg ddim yn gwerthu'n dda iawn.
2.) Maen nhw allan ers sbel, ond mae'r hen nofelau'n dal i werthu'n eitha cyson.
3.) Ches i ddim gwahoddiad i'w hyrwyddo ar raglenni S4C na Radio Cymru.
4.) Dyw'r Cymry ddim yn wych am brynu llyfrau, dyna pam fod pawb sy'n sgwennu llyfrau yn gorfod gwneud o leia un swydd arall i dalu'r biliau.
5.) Dwi'm yn meddwl bod y Cymry sydd yn prynu llyfrau yn gwybod pwy wyt ti eto.
6.) Mae'r bobl sydd yn gwybod pwy wyt ti (blogwyr a phobl iau) yn darllen y we yn hytrach na llyfrau print.
7.) Mae hunangofiannau yn gwerthu'n dda - ond dim ond os ydi'r awdur yn rywun enwog iawn. Neu'n nabod llawer iawn o bobl - fel Dai Jones (ei hunangofiant wedi gwerthu dros ddeg mil) Enwau llai yn lwcus i werthu dwy fil.
8.) Mae 'Ar y Lein eto fyth' wedi gwerthu llai na 500 copi! A gan fod fy nofelau yn gwerthu dros 2 fil yn hawdd, mae hynna'n pathetic.

Gobeithio bod hynna'n gwneud i ti deimlo'n well!

Mae yna reswm amlwg pan ydan ni’n amharod i ddatgelu faint o bobol sy’n prynu llyfrau a darllen gwefannau yn y Gymraeg. Dydi’r ystadegau byth mor uchel ac a hoffwn ni iddyn nhw fod. Ar ôl rhoi gymaint o ymdrech i mewn i flog neu nofel mae’n brafiach dychmygu bod miloedd ar filoedd yn darllen na’r gwirionedd yn aml iawn, sef bod cannoedd neu hyd yn oed degau yn darllen.

Ond efallai bod angen newid yr agwedd honno a rhoi mwy o bwyslais ar faint sy’n darllen yn y rhithfro. Dros y deg mlynedd ydw i wedi bod yn cyfrannu at y we yn Gymraeg  mae yna lot o bwyslais wedi bod ar faint sy’n creu, a hynny’n cael ei weld fel baromedr iechyd y rhithfro. A dyna bwyslais ‘Pethau Bychain’. Ond mewn gwirionedd dyw cant blog gyda neb yn eu darllen ddim yn fwy iach i’r iaith na deg blog gyda channoedd o ddarllenwyr.

Os ydych chi eisiau gwnned y ‘pethau bychain’ go iawn, y peth mwyaf gwerthfawr allech chi ei wneud ydi mynd i wefannau Cymraeg bob dydd.

Alla’i awrymu Golwg 360 a nifer o’r blogiau ar y rhestr yma fel man cychwyn? ;)

Comments

  1. Ydych chi wedi ystyried darllenwyr llyfrgell? Boed yn cymryd llyfr adref neu'n darllen o fewn y llyfrgell?

    Yn aml dwi'n pigo hen lyfr i fyny mewn llyfrgell, darllen 1-5 pennod ac yn ei roi'n ôl cyn gorfod mynd i wneud rhywbeth arall, ond yn aml maent yn cael effaith reit sylweddol sy'n amharu ar be gwnaf gyda gweddill fy niwrnod, neu mynd ati i chwilio mwy am y pwnc. Nifer o'r llyfrau hyn yn rai hen, gyda'r awduron wedi hen farw.

    Tydw i ddim yn ceisio dweud bydd eich gwaith yn cael ei werthfawrogi ar ôl eich ymadawaid o'r byd yma (!), ond boed chi'n gallu mesur nifer y darllenwyr neu beidio does dim i ddweud nad ydynt yn cael dylanwad, sy'n peri i mi ofyn, ai ysgrifennu i wneud pres a derbyn enw da yw'r motif (dim yn eich achos chi wrth gwrs) neu roi mwynhad neu newid ffordd o feddwl rhywun?

    Os yn edrych ar ieithoedd yn fwy cyffredinol, fel hanes Esperanto a ieithoedd gwneud eraill, yr hyn sydd wedi eu dal yn ôl yw diffyg llenyddiaeth. Yn wir, daw cryfrder Saesneg gan weithiau da gwreiddiol sy'n ei chefnogi: Jane Austen, Shakespeare, Chaucer etc. Yn aml bydd nifer yn darllen eu gwaith trwy orfodaeth fel rhan o gwrs TGAU neu lefel uwch, ond a ydynt yn ei ddeall? Yw hyn yn well na chael nifer is yn eu darllen ond yn deall?

    Trwy ychwanegu at lyfrgell llenyddiaeth y Gymraeg, mae hyn yn ei hun yn cefnogi a chryfrhau'r iaith.

    Os edyrchwn ar yr Eisteddfodau cynnar, yr ydym yn gweld cyngerdd caeedig, gyda'r cyhoedd yn absennol. Yr oedd rhannu gweithiau da rhwng grwp bach iawn tu ôl i ddrysau, heb amharu ar ei safon na'i dderbyn gan nifer ehangach hwyrach ymlaen.


    Un mantais o gofnodi nifer o ymwelwyr i wefan yw gweld sut maent yn ei ganfod? Gellir gweld y llwybr dilynodd ymwelwr trwy chwilio am rywbeth ar Google. Mae hyn yn eich galluogi i addasu, neu greu cynnwys i'r ymwelwr - dod i ddeall eich cynulleidfa. Hwn yw mantais rhyngweithiol y we ac yn fwy penodol blogiau - gallu derbyn adborth uniongyrchiol ar rywbeth yr ydych wedi ei ysgrifennu.

    ReplyDelete
  2. Mewn fersiwn amgen o'r bydysawd lle methodd y Saeson a'r Normaniaid i oresgyn Ynys y Cedyrn, cafodd dy nofel di ei hysbysebu ar BBC Breakfast, GMTV (neu Daybreak bellach), Sky Sunrise, Richard & Judy, Newsnight Review, The Guardian, The Times, The Telegraph, The Independent....

    Faint ydy'r cyfryngau Cymreig yn ei wneud i hysbysebu nofelau a gwefannau a gwasanaethau Cymraeg? Dwi'n dweud "Cymreig" yn hytrach na "Chymraeg" gan ein bod mewn sefyllfa lle mae'r mwyafrif o siaradwyr Cymraeg yn arfer defnyddio'r cyfryngau Saesneg; yn y fath sefyllfa oni ddylai'r cyfryngau Cymreig Saesneg-eu-hiaith roi exposure i'r pethau hyn hefyd?

    ReplyDelete
  3. Dwi ddim yn hollol siwr 'mod i'n cytuno gyda'r honiad nad yw "cant blog gyda neb yn eu darllen ddim yn fwy iach i’r iaith na deg blog gyda channoedd o ddarllenwyr." Yn enwedig yn nhermau Pethau Bychain. Rydw i'n gweld y peth fel ymdrech i greu "critical mass."

    Mae mwy o flogiau'n creu'r argraff o fwy o leisiau. Weithiau, yn arbennig mewn sefyllfa mewn hyn lle mae "perception" yn holl bwysig. Mae'n dda cael y "perception" o gannoedd o leisiau.

    Rydw i'n credu rhaid cael llawer o leisiau er mwyn cael y lleisiau da. Wel, efallai nad oes *rhaid* cael hynny -- onid oedd Daniel Owen yn ysgrifennu mewn ychydig o vacuum nofelwyr Cymraeg -- ond mae'n help, yn ddiau. Tybiwn y mae'n fwy tebygol gweld blogiwyr arbennig o dda sy'n dod allan o dorf, yn hytrach nag allan o ddim.

    Hefyd, mae'r fath bresennoldeb yn dweud wrth ddarllenwr nad yw'r iaith yn gimig -- nad yw'n rhywbeth bach sy'n perthyn mewn cornel y rhyngrwyd.

    ReplyDelete
  4. 'yn y fath sefyllfa oni ddylai'r cyfryngau Cymreig Saesneg-eu-hiaith roi exposure i'r pethau hyn hefyd?'

    Er mod i'n ymwneud yn bennaf gyda'r cyfryngau Cymraeg dwi'n credu bod Cymru angen gwell gwasg Saesneg hefyd.

    'Mae'n dda cael y "perception" o gannoedd o leisiau.'

    Mae hyn yn galw i gof yr hen ddywediad 'If a tree falls in the forest and no one is around to hear it does it make a sound?'

    Os oes yna gannoedd o flogiau a neb yn eu darllen nhw dwi'm yn credu eu bod nhw'n creu unrhyw fath o 'perception' o gwbwl.

    Fyddai'n well gen i weld ambell i safle bywiog, gyda nifer o ddarllenwyr a cyfranwyr, na cannoedd o safloedd gyda cyfranwyr unigol ond dim darllenwyr.

    Dwi'n credu bod yr hen flog Metastwnsh wedi gweithio'n eitha da am mai y cyfranwyr oedd y darllenwyr i ryw raddau. Roedd cyfranwyr yn gadael sylwadau ar eu cofnodion ei gilydd a roedd hynny'n creu teimlad o fywiogrwydd gan annog darllenwyr eraill i gyfrannu.

    ReplyDelete
  5. Petai David R Edwards wedi meddwl am gynulleidfa yn yr wythdegau, fyddai ganddon ni'r gwaith oedd ganddo yn y 90au?

    Petai pob rhaglen S4C yn cael ei barnu ar gynulleidfa fyddai hynny'n golygu bod dim pwynt cynhyrchu rhaglenni?

    Un peth am y 'gynulleidfa' we os alli di alw fo'n hynny hyd yn oed, ydi ei fod ddim yn dilyn pethau yn ddyddiol yn aml iawn ac yn dibynnu ar ddolenni gan bobol (ar Twitter neu Facebook gan amlaf) neu sefydliadau (Golwg360 neu BBC Cymru gan amlaf) i dynnu traffig drwodd i ddarnau unigol o gynnwys. Dydi o ddim yn ddibynnol ar amser (gall cofnod blog fod yn boblogaidd dros amser byr neu amser llawer hirach).

    O mhrofiad i o flogio, mae gen ti gynulleidfa gyson gymharol fach (ac mae'r gymharol yn bwysig), sydd yn driw, ac yn werth sgwennu ar eu cyfer. Os ti'n hapus yn blogio i 20 yna mae hynny'n gret. Mae llawer iawn o fanzines yn gweithredu fel'na. Mae unrhyw sin DIY yn gweithredu fel'na. Mi gei ambell i gofnod sydd rywsut yn cyrraedd tu hwnt i hyn ac yn rhoi spike mawr yn y traffig yna sefydlogi nol eto i'r un lefel, ac mae hyn yn gret, ond fel yn y cigfyd, dim ond rhai o'r llawer fydd yn cyrraedd cynulleidfa fawr.

    Dwi ddim yn meddwl bod hyn yn destun siom, jest fel'na ma'r we yn gweithio. Mae Twitter wedi gwneud gwahaniaeth mawr i dynnu traffig drwodd i wefannau eraill. Dydi rhan fwyaf o flogiau Cymraeg ddim yn gwthio eu cynnwys drwodd i Twitter, lle mae pobol yn gallu lledu gair am gofnod yn hawdd.

    Os ti isio ffigyrau yna dyma rai fideobobdydd.com am Awst:

    Ymwelwyr Unigol Absoliwt = 643
    Ymwelwyr Unigol = 1,175
    Ymweliadau Tudalen = 2,264
    Cyfartaledd amser a dreulir ar y wefan = 2 funud 17 eiliad
    Cyfartaledd tudalennau a ddarllennir = 1.93

    A bod yn onest, dwi'n fwy na hapus os mae na 643 o unigolion wedi ymweld a gwefan gwbl annibynnol, di-hysbyseb, di-farchnata (ish), a di-arian.

    Meddyliwch beth allai pobol wneud gyda chyllideb?

    A does neb yn 'cyhoeddi ffigyrau' am fod dim llawer o neb efo iot o ddiddordeb! Os mae blog yn cynhyrchu un darn da o gynnwys y mis. Mae hynny'n lwyddiant. Mae'n gwneud cystal a llawer i bapur bro neu raglen radio gymunedol fyswn i'n tybio.

    Efallai bod beth mae Catrin Beard yn dweud yn wir, fod na dipyn o bethau diflas ar-lein, ond mae nhw'n siwr o fod yn ddiddorol i rywun! Pam bod popeth yn gorfod bod yn ddiddorol i un person penodol? Mae'r we yn ddi-ddiwedd, does na ddim prinder lle na column inches, felly mae lle i gael blog crochet lluniau o superheroes y 50au yn Gymraeg os oes na un person yn darllen ac yn gwerthfawrogi hynny.

    Mae pobol dal i feddwl yn y ffordd, bod rhaid i bethau weithio fel print, fel teledu, fel radio - lle mae lle yn brin ac felly rhaid dewis a dethol beth fydd yn mynd arnynt. Ar y we, mae na infinte self space, felly does dim ots os oes blog sydd â dim ond deg darllennydd dyddiol (ac mae dyddiol yn misnomer hefyd - sawl ymwelydd i gofnod fasa'n fesur gwell - neu faint o amser mae nhw'n treulio ar y wefan).

    Mae blogiau hefyd yn lif o gynnwys yn hytrach nac yn erthgyl fisol, lle mae rhywun yn hogi fo i fod yn berffaith. Publish or be damned ydi'r ethos, ac os oes rhywbeth yn taro deuddeg bob yn hyn a hyn yna gret.

    Mae yna'r broblem o critical mass ar gyfer sylwadau ar flogiau Cymraeg, ond mae hynny'n rhywbeth arall yn llwyr.

    Dwi'n credu dy fod yn gwbl anghywir o ddweud bod darllen rhywbeth Cymraeg ar-lein yn fwy adeiladol na chreu rhwybeth newydd. Pam ar wyneb y ddaear bod y ddau yn mutually exclusive i ddechrau, a sut mae bod yn passive mewn byd lle mae cyfranogiaeth yn ein amgylchynu yn rhoi'r Gymraeg ar y droed flaen wn i ddim. Rhaid i ni gymryd rhan ym mhob agwedd o ddiwylliant digidol os da ni am gadw unrhyw berthnasedd yn y degawdau nesaf.

    Os mae digon o flogiau, a rhaid cofio taw nid dim ond blogiau yw'r we o bell, bell ffordd, yna mae pethau mwy poblogaidd yn bownd o godi ohonyn nhw.

    ReplyDelete
  6. Dwi wedi darllen beth mae Rhodri ap dyfrig wedi ei ddweud ar Haciaith (http://stwnsh.com/15n) ac yn sylwi ei fod wedi cau'r sylwadau ar ei gyfer.

    O ran Pethau Bychain, a dwi yn llefarydd ar ei gyfer, dwi'n meddwl na'r bwriad oedd i gael pobl i wneud pethau, nei o leiaf meddwl am wneud pethau. Mae'n bwysig bod pobl yn darllen hefyd wrth gwrs, ond os nad oes pethau i'w darllen yn y lle cyntaf, wneith nhw ddim.

    Mae angen cael y cynnwys er mwyn cael y darllenwyr yn does? Fel y dywedodd Ray Liota yn field of dreams "if you build it, they will come".

    Dim ond ein cynnig cyntaf ni oedd hwn. Fe fydd Pethau Bychain yn ôl y flwyddyn nesaf, ond beth am ebostio syniadau i ni yn cyfamser yn dweud sut y gallwn ni wellau pethau.

    post@pethaubychain.com

    ReplyDelete
  7. Efallai fod cael gwefannau amlgyfrannog yn gwneud pethau 'edrych' yn fwy bywiog ond dyw hynny ddim yn garanti o ddenu sylw, cyfrannwyr na darllenwyr. Y prif fantais yw fod erthyglau yn gallu cyhoeddi yn amlach drwy rannu'r baich rhwng nifer o bobol.

    Mae'r Blogiadur er enghraifft yn cronni llawer o flogiau Cymraeg a gwneud y byd blogio Cymraeg i'w weld yn reit iach, bywiog ac amrywiol.

    Ond, dyw e ddim yn gyrru traffig drwodd i'r blogiau gwreiddiol yn enwedig ar gyfer sylwadau. Er enghraifft dwi'n gallu gweld fod 26 o bobl wedi darllen cofnod (wnes i sgrifennu ddoe) drwy wefan y blogiadur ond dim ond un sydd wedi dilyn y ddolen i fy mlog i. Ar hyn o bryd mae tua 7 person wedi ei ddarllen yn uniongyrchol (neu drwy ddarllenydd RSS).

    Mae yna lawer iawn o resymau pam fod pobl eisiau cadw eu blogiau eu hun yn hytrach na chyfrannu i un canolog (yn cynnwys rheolaeth dros eu cynnwys a'i heiddo deallusol) ond yn aml iawn mae rhywun yn defnyddio blog fel eu 'hafan' nhw ar y we. A felly mae angen iddo fod yn adlewyrchiad o bersonoliaeth yr unigolyn yn hytrach na chyfraniad i un 'brand'.

    Dwi'n amau fod llawer iawn mwy o bobl dyddie yma yn defnyddio eu tudalen Facebook fel hafan bersonol - sy'n ddealladwy am fod y cwmni wedi'i wneud e'n hawdd iawn i wneud hynny. Yn anffodus dyw'r cynnwys hynny ddim i'w weld ar y we agored (ac oherwydd hynny dim ond eu ffrindiau sy'n debygol o'i ddarllen).

    I drio crynhoi beth dwi'n drio ddweud.. dwi'n gweld manteision gyda lleisiau unigol ac unigryw nid jyst ar flogiau ond sianeli YouTube a gwefannau annibynnol arall, er fod angen rhyw ffordd o'i glymu mewn i gymuned. Mae angen model gwell na'r Blogiadur ond dwi ddim yn gwybod beth (a plîs paid dweud Lle Pawb :)

    ReplyDelete
  8. Helo, Pethau Bychain. Er mai dy/eich digwyddiad sbardunodd y blogiad uchod nid ymosodiad ar Bethau Bychain oedd o, ac mae’n ddrwg gen i os ydy o’n darllen felly! (Dw i ddim eisiau dechrau swnio fel yr holl Gymru Cymraeg ‘na sy’n lladd ar unrhyw syniad newydd i hybu’r iaith tra’n gwneud dim oll eu hunain.) Beth bynnag am ei lwyddiannau eraill roedd Pethau Bychain yn coup PR a hanner ac wedi tynnu lot o sylw ehangach at y rhithfro.

    Yn amlwg mae hybu pobol i greu deunydd yr un mor bwysig a hybu pobol i ddarllen. Dyw un methu bodoli heb y llall, a dyw’r un ddim pwysicach na’r llall. Sdim angen polareiddio’r ddadl. Fy unig bryder i yw bod gormod o bwyslais yn y rhithfro wedi bod ar y creu yn hytrach na’r denu darllenwyr.

    Mae Nwdls yn dweud ar ei gofnod na ddylai S4C boeni am wylwyr wrth gynhyrchu rhaglenni. Dwi’m yn credu y byddai hynny’n polisi call gan bod diffyg gwylwyr yn cael ei ddefnyddio fel cyfiawnhad i dorri ei gyllid!

    Dwi’m yn credu bod sylwadau Nwdls am David R Edwards yn yr 80au cweit yn dal dwr chwaith. Dwi’n deall y ddadl – doedd gan Vincent Van Gogh ddim cynulledfa yn ei ddydd, wyt ti’n dweud y dylai fo wedi rhoi’r gorau i baentio, ayyb...

    Ond mae’r we yn rywbeth llawr mwy ysbeidiol. Os ydw i’n cyhoeddi blogiad fan hyn, neu stori ar Golwg 360, os nad oes neb yn ei ddarllen o fewn ychydig oriau i’w gyhoeddi, neu o leiaf ychydig ddyddiau, dydyn nhw ddim yn debygol o wneud byth. Does neb yn mynd i ddatgloddio’r blog yma ar ol i fi farw a’i roi o mewn amgueddfa.

    Mae’r we yn symud mwy a mwy tuag at y ‘beth sy’n digwydd nawr’. Mae poblogrwydd Twitter yn dangos hynny.

    Dwi’n credu bod angen denu mwy o Gymru Cymraeg i ddarllen cynnwys Cymraeg ar y we. Mae yna le i flogiau niche sy’n darparu ar gyfer cynulleidfaoedd bach wrth gwrs. Ond dyw’r gwefannau rhain ddim yn ddigon gweledol.

    Dw i’n credu’n gryf bod angen gwefannau mawr hefyd er mwyn gwneud y rhithfro’r fwy gweledol a codi proffil yr iaith ar y we. Ystyriwch Maes-e ar ei anterth – roedd o’n wefan mawr gyda cannoedd o gyfranwyr a hebddo ni fyddai lot o’r bobol sy’n cyfranu at y rhithfro heddiw wedi ‘dod o hyd’ i’r Gymraeg ar y we.

    Os nad ydych chi’n cytuno, wel bydd rhaid i ni jesd gytuno i anghytuno!

    [Ddrwg gen i bod y sylw yma mor droellog ond rydw i'n ceisio difyrru un plentyn sy'n sal o'r ysgol a un babi pythefnos oed yr un pryd!]

    ReplyDelete
  9. Ifan, diolch am y cofnod.

    Dw i newydd wedi prynu dy nofel Yr Argraff Gyntaf yn syth ar ôl darllen. Gwnaf i sgwennu adolygiad ar fy mlog.

    Dyna ni, fy sylw.

    Gwnewch y pethau bychain.

    ReplyDelete
  10. > Does neb yn mynd i ddatgloddio’r blog yma ar ol i fi farw a’i roi o mewn amgueddfa.

    Wyt ti'n siwr am hyn? Mae'r Llyfrgell Genedlaethol â pholisi o archifo blogiau Cymraeg a'u cadw'n saff yn eu coffrau digidol. Mae'n debyg y bydd popeth sy'n cael i ddweud ar y we agored yn cael ei gadw rhywle.

    Dydy hynny ddim yn ddigon o reswm i rywun cynnal blog, efallai, ond mae'n werth meddwl amdano.

    ReplyDelete
  11. Diolch am brynu'r nofel, Carl! Gobeithio wnei di ei mwynhau hi.

    Nic, mae hynny'n codi ofn ar rywun tydi. Yn enwedig ar ol yr holl nonsens ysgrifennais i ar Maes-e dros y blynyddoedd... ;)

    Ond dwi'n credu am ei fod o mor hawdd i gyhoeddi ar y we mae yna fwy o gynnwys a'r safon yn is na, dweud, llenyddiaeth neu gelf gweledol. Pwy fyddai'n barod i dwrio drwy'r holl rwtsh sydd ar y we er mwyn dod o hyd i Van Gough y byd blogio Cymraeg? Felly mae'n saffach ysgrifennu at ddarllenwyr heddiw na mewn gobaith ar gyfer darllenwyr y dyfodol mae'n siwr! :)

    ReplyDelete
  12. Sgwn a feddyliodd Cartin Beard y byddai ei sylw ar Trydar yn esgor day gofnod blog a thrafodaeth ar flog?

    Chwarae'r devils advocate oedd Ifan mae'n siwr gen i, a tra bod ni gyd yn cytuno (dw i'n meddwl) mai nai mater o 'naill neu'r llall' ydy ynglýn á cynulleidfa v's darparwyr cynnwys, efallai bod eisiau meddwl yn ofalus ar gynyddu cynulleidfa.

    Tra bod gwefannau nieche llwyr yn bethau iachus a hanfodol yn yr ecosysytem, liciwn i weld cynulleidfa yn ei gyfarwydd yn y cynyddu fel bod modd cynnal gwefannau ble mae niferoedd darllenwyr yn cyfri (fel Golwg360, lleol.net ayyb).

    Dw i'n meddwl am flogio eto (er mae pethau fel video a radio ar-lein yr un mor berthnaslo), a petawn i'n dechrau ail-gydio mewn blogio o ddifri, dw i'n meddwl baswn i'n gwneud ymdrech i addasu (rhai) pethau dw i'n sgwennu amdano i adleywrchu beth fyddai o ddiddordeb i ystod ehangach o ddarllenwyr. Yn amlwg mae safon y sgwennu yr un mor bwysig a'r pwnc dan sylw. Dyma lle roedd Metastwnsh yn dda, pobl yn dallt eu stwff yn són am stwff roedd eraill eisiau darllen amdano, a llawer iawn yn gadael sylw arno hefyd.

    ReplyDelete
  13. "Mae'r Llyfrgell Genedlaethol â pholisi o archifo blogiau Cymraeg a'u cadw'n saff yn eu coffrau digidol."

    ..a blogiau gwleidyddol Cymreig hefyd. Mae Ordovicius, er enghraifft, wedi ei archifo gan y Llyfrgell Genedlaethol (gyda fy nghaniatâd).

    O ran llên ar y we, fel mae'n digwydd dwi'n cyhoeddi fy straeon fy hun ar y we, sef fy straeon anorffen. Hadau llên heb egino fel petai; drafftiau gadawedig a gafodd eu creu wrth imi chwilio am stori i'w sgwennu. Yn hytrach na chondemnio nhw i ebargofiant y Bin Ailgylchu penderfynais eu cyhoeddi ar y blog. Does neb yn eu darllen a go brin y maent o ddiddordeb i neb arall ond dwi'n gweld fy mlog fel math o scrapbook personol yn hytrach na rhywbeth sydd yno i ryngweithredu â chynulleidfa.

    ReplyDelete
  14. Gen i lwyth o ryw ddogfennau bach fel yna, Simon. Gormod o syniadau a dim digon o amser i'w gorffen nhw. Gan gynnwys un nofel cynfan 60,000 o eiriau sgwennais i nol tua 2004! Falle y byddai'n werth eu cyhoeddi nhw ar y we fel eu bod nhw'n gweld golau dydd mewn ryw ffordd ond dwin ofni y bydda'i eisiau eu gorffen nhw rhyw ddydd!

    ReplyDelete
  15. @Ifan
    Cyhoedda nhw arlein beth bynnag!

    Cyhoedda nhw ar bapur hwyrach.

    Meddyliau
    http://www.guardian.co.uk/technology/2010/may/23/cory-doctorow-my-bright-idea

    Gyda llaw, mae Chris Cope yn cyhoeddi'r nofel fe ar ei flog ar hyn o bryd.

    ReplyDelete
  16. Ok, efallai bod y ddwy enghraifft roddais i ddim cweit yn dal dwr. Dwi'n derbyn hynny, ond fy nadl sylfaneol ydi bod digon ohonon ni i gynnal myrdd o flogiau niche yn ogystal â chreu gwasanaethau gwe mwy sydd yn fwy poblogaidd. Mae'r rhan fwyaf o flogiau Saesneg yn hollol niche os rhoddi di nhw yng nghyd destun y cyfryngau prif ffrwd Saesneg. Os nad ydi blogiwr yn hapus gyda chynulleidfa fechan, wel dyna fo, stopier flogio! Mae blogio yn rhywbeth personol iawn, ac yn aml yn rhywbeth sy'n dechrau heb gynulleidfa mewn golwg.

    Dwi jest ddim yn deall yr ensyniad bod nifer bach o ddarllenwyr yn ddi-werth, a dod i ganlyniad wedyn y byddai'n well i bobol dreulio eu hamser yn darllen yn hytrach na'n creu.

    Y gwir yw os tisio miloedd o bobol yn darllen, mae'n help mawr i un ai bod a thalent anarferol fydd yn dod â nifer fawr o o ddarllenwyr trwy enw da, bod yn ddadleuol iawn, neu gael arian i gynhyrchu rhywbeth cyson proffesiynol gyda chyllideb marchnata addas. Dydi'r haen yma o rithfro ddim yn bodoli yn Gymraeg, felly mae llai o fwydo lawr, a llai o fwydo fyny yn digwydd.

    O ran maes-e, mae na gannoedd, os nad miloedd, o Gymry Cymraeg yn trafod yn eu hiaith ar Twitter a Facebook. Dwi ddim yn rhy ddigalon am hynny. Dwi chydig yn fwy pryderus am gynnwys llai ysbeidiol, fel fideo, ysgrifennu hirach neu waith mwy creadigol Cymraeg.

    Mae trends yn newid a phobol yn symud - manteisio ar y platfformau hyn rwan sy'n bwysig. Dwi'n credu bod na lot o le i wasanaethau Cymraeg newydd ar ffonau symudol a gwasanaethau lleol dyfeisgar.

    ReplyDelete
  17. Damia, sgwennais i sylw hir arall gynnau ond wnaeth o ddim cyhoeddi :(

    ReplyDelete
  18. Sori Nwdls, roedd dy sylw di (ac ambell un arall) wedi mynd i 'sbam' am ryw reswm. Wedu eu cyhoeddi nawr.

    ReplyDelete

Post a Comment