Yr Argraff Beth...?

Adolygiad arall o'r Argraff Gyntaf, gan Bethan Gwanas ym mhapur newydd y Daily Post. Canmoliaeth, ond dyw'r teitl ddim yn gofiadwy iawn mae'n debyg!

Rydw i'n hoff iawn o nofelau Bethan Gwanas, yn enwedig Gwrach y Gwyllt, felly mae'n braf iawn gwybod ei bod hi wedi mwynhau y nofel yma ac Igam Ogam hefyd.

Dwi wedi llwyddo i ddarllen ambell un arall o Lyfrau’r Nadolig ac isio eu canmol. Dyna i chi ‘Yr Argraff Gyntaf’ gan Ifan Morgan Jones, y boi o Waunfawr enillodd wobr goffa Daniel Owen ddwy flynedd yn ôl. Mi wnes i fwynhau’r gyfrol ffantasiol honno, ‘Igam Ogam’ yn arw; roedd hi’n amlwg ei fod o’n gwybod sut i sgwennu a sut i saernio plot. Ac mae’n profi hynny eto efo’i ail nofel hefyd. Ond nofel dditectif ydi hon (wel, ac antur a dirgelwch), wedi’i lleoli yng Nghaerdydd yn 1927, pan enillodd Caerdydd Cwpan yr FA a phan gafodd Amgueddfa Genedlaethol Cymru ei hagor – a phan oedd ardal y bae yn beryg bywyd. Mae’n dechrau gyda chorff yn cael ei ddarganfod mewn gwasg argraffu – sy’n egluro’r teitl – ond er ei fod yn deitl clyfar, dydi o ddim yn un hawdd ei gofio mae arna i ofn. Ond mae’r cymeriadau a’r stori’n gwneud iawn am hynny. Mae profiad yr awdur fel newyddiadurwr yn gwbl amlwg, ac mi ddeudwn i ei fod o’n ddarllenwr brwd hefyd. Allwch chi’m sgwennu straeon fel hyn heb fod wedi eich trwytho mewn llyfrau. Nofel hynod ddarllenadwy a dwi’n edrych ymlaen at y nesa.
Son am y nofel nesaf, mae yna llond pair o syniadau yn chwyrlio yn fy mhen ar y funud... mwy i ddilyn...

Comments