Defnydd arall i Kindle


Un peth oeddwn i’n arfer ei i gael yn anodd wrth ysgrifennu ar fy nghyfrifiadur oedd dychmygu sut brofiad fyddai ei ddarllen wedi iddo gael ei gyhoeddi ar ffurf llyfr. Mae’r profiad o sgrolio i lawr drwy ddogfen Word ar sgrin yn wahanol iawn i’r profiad llawer mwy intimate o gyrlio i fyny ar y soffa neu yn y gwely â llyfr yn eich llaw ac ymgolli yn llwyr yn y stori.

Un peth defnyddiol iawn ydw i wedi ei ddarganfod am Kindle yw ei fod yn bosib trosglwyddo penodau ydw i newydd eu hysgrifennu ar Word i Kindle a’u darllen fel pe bawn i’n darllen llyfr. Mae eu darllen fel hyn yn rhoi llawer gwell syniad i mi os ydi pennod yn gweithio ai peidio. Mae’n gwneud synnwyr perffaith fy mod i’n prawf ddarllen beth ydw i wedi ei ysgrifennu yn yr un modd a phawb fydd yn ei fwynhau (gobeithio!) yn y pen draw.

Comments