Cyfle i wneud llwyddiant o Gwpan y Byd 2011


Mae’n debyg mai dim ond yng nghyd-destun marwolaeth y dylid defnyddio’r gair ‘colled’, ac felly nad yw’n gywir cyfeirio at ‘golled’ y tîm cenedlaethol. A does neb wedi marw - heblaw am obeithion Cymru. Roedd hi'n farwolaeth ara deg hefyd, gan ddechrau â cherdyn coch Sam Warburton ar 18 munud.

Yr eironi ydi petai rywun wedi cynnig lle yn rownd y pedwar olaf i gefnogwyr Cymru deufis yn ôl fe fyddwn nhw wedi bod yn fwy na bodlon. Fe fyddwn i wedi bod yn hapus eu gweld nhw’n dianc o’r grŵp. Ond o ystyried safon y tîm oedd wedi tyfu o fewn y gystadleuaeth, a safon y gwrthwynebwyr, mae’n anodd peidio a theimlo ein bod ni wedi cael cam.

Rhaid derbyn nad oedd penderfyniad y dyfarnwr yn un anghywir, yn ôl y rheolau. Roedd y dacl ei hun yn y niwl rhywle rhwng cerdyn coch a cerdyn melyn. Y broblem yw nad oes yna dir canol rhwng y ddau. O ystyried eu bod nhw wedi dal eu tir â 14 dyn am 60 munud, ni fyddai cerdyn melyn wedi bod yn llawer o gosb i Gymru. Ond roedd cerdyn coch yn ergyd farwol.

Er gwaetha’r ffaith mai Cwpan Rygbi’r Byd yw prif gystadleuaeth a chanolbwynt y byd rygbi dyw hi ddim yn gystadleuaeth deg iawn. Dyw’r timoedd gorau ddim o reidrwydd yn ennill, fel sydd yn tueddu i ddigwydd yn y Chwe Gwlad a’r Tair Gwlad. Mae angen llawer iawn o lwc. Mae methiant y tîm gorau yn y byd, y Crysau Duon, i ennill y gystadleuaeth yn gyson yn profi hynny.

Fe aeth rhai pethau o blaid Cymru. Y pennaf ymysg y rheini oedd bod Iwerddon wedi sicrhau buddugoliaeth annisgwyl yn erbyn Awstralia. Y canlyniad hwnnw oedd yn bennaf gyfrifol am lwyddiant Cymru wrth gyrraedd rownd y pedwar olaf am y tro cyntaf ers 1987. Y ddau dro arall y cyrhaeddodd Cymru rownd yr wyth olaf, yn 1999 a 2003, fe wynebodd y tîm enillwyr y gystadleuaeth a cholli.

Mae sawl peth wedi mynd o blaid Ffrainc, sy’n dîm gwael ar y cyfan. Heddiw fe aeth pethau o chwith i Gymru. Efallai mai anfon Sam Warburton o’r cae oedd y penderfyniad ‘cywir’, efallai ddim. Ond fe gafodd ymgyrch Cymru ei ddifetha mewn eiliad. Mae’n annheg o ystyried yr ymdrech y mae chwaraewyr unigol yn ei fuddsoddi yn y gêm, ond y gwir mai lwc yw o leiaf 25% o bopeth mewn chwaraeon. Mae'n bencampwriaeth eleni wedi bod yn wers anodd i ni'r Cymry sydd heb droedio uchelfannau y pencampwriaethau mawr ers 87, neu yn achos y tim pel-droed 58.

Beth sy’n bwysig nawr yw bod Cymru yn adeiladu ar eu llwyddiant. Er iddyn nhw fethu a chyrraedd y rownd derfynol mae camp y tîm yma ar yr un lefel a thimoedd 08 a 05. Ond yn wahanol i’r timoedd rheini rhaid cymryd y cam nesaf hollbwysig a chynnal y safon yma dros y blynyddoedd nesaf. Mae’r gystadleuaeth yma wedi datgelu cnewyllyn o chwaraewyr penigamp, a chynnal a datblygu eu talentau nhw fydd yn penderfynu a yw Cwpan Rygbi’r Byd 2011 wedi bod yn un llwyddiannus ai peidio, yn y pen draw.

Comments