Achub yr ewro

Mae’n siŵr nad fi yw’r unig un sydd wedi cymryd mwy o ddiddordeb na’r arfer yn y byd ariannol dros y misoedd diwethaf. Os ydyn ni’n barod i gredu'r cyfryngau Llundeinig, sydd wedi bod yn amheus o’r ewro ers y dechrau, mae parth yr ewro ar fin ffrwydro – fel uwchnofa - gan adael twll du ar ei ôl fydd yn ein sugno ni i gyd i ebargofiant.

Mae bron i ddwy flynedd wedi mynd heibio ers i fi gyfrannu darn barn at wefan Golwg 360, gan ofyn ai polisi’r Ceidwadwyr o dorri’n ôl yn llym oedd yn gywir ynteu polisi’r Blaid Lafur o barhau i fuddsoddi arian cyhoeddus nes fod yr economi’n ôl ar ei draed. Dwy flynedd yn ddiweddarach mae hi'r un mor anodd ateb y cwestiwn. Bydd George Osborne yn dadlau fod ei gynllun i dorri’r diffyg ariannol yn golygu fod y farchnad yn fwy parod i brynu dyled y wlad, ac o ganlyniad i hynny ein bod ni wedi osgoi’r un problemau a’r Eidal a Gwlad Groeg. Ar y llaw arall gellir dadlau nad yw ein heconomi ni wedi tyfu braidd dim dros y flwyddyn ddiwethaf, ac nad yw’n debygol o dyfu rhyw lawer yn ystod y flwyddyn nesaf chwaith. Os nad yw’r economi yn tyfu ni fydd Osborne yn gallu lleihau’r diffyg ariannol yn sylweddol wedi’r cwbl, am na fydd digon o arian yn mynd i mewn i’r Trysorlys, a rhagor yn mynd allan i dalu am fudd-daliadau'r di-waith. Yna fe fydd hyder y farchnad yng ngallu Prydain i dalu ei dyledion yn diflannu ac fe fyddwn ni yn yr un cwch a’r Eidal a Gwlad Groeg wedi’r cyfan.

Mae’r Canghellor yn cerdded rhaff i bob pwrpas, gyda diffyg twf ar un ochor a gormod o ddyled ar y llall. Os yw’n colli ei gydbwysedd a gwyro’n ormodol i un cyfeiriad neu’r llall fe fydd hi ar ben arnom ni. Ond wrth gwrs, yn wahanol i’w ewro, mae gennym ni’r gallu i argraffu ein harian ein hunain, ac felly fe allen ni dalu ein dyledion i gyd yfory a gorfod byw gyda chanlyniadau hynny, sef chwyddiant ofnadwy o uchel (sef beth mae Banc Lloegr a’r Ffed yn yr Unol Daleithiau wedi bod yn ei wneud i raddau llai beth bynnag drwy ddull quantative easing).

Os yw’r hwch yn mynd drwy’r ewro fe allai’r ddadl fod yn un academaidd beth bynnag, achos fe fyddai yn arwain at chwalfa economaidd waeth nag un 2008. Mae dyled yr Eidal bedair gwaith maint dyled Lehman Brothers a aeth i’r wal ar ddechrau’r argyfwng hwnnw.

Y broblem yw nad yw Banc Canolog Ewrop, yr ECB, yn fodlon argraffu arian er mwyn talu dyledion gwledydd sydd wedi mynd i drafferthion, gan gynnwys yr Eidal a Gwlad Groeg. Neu, i fod yn fanwl gywir, dyw’r Almaenwyr ddim yn fodlon i’r ECB wneud hynny. Un damcaniaeth yw bod gwleidyddion yr Almaen yn ofni dychwelyd i chwyddiant uchel Gweriniaeth Weimar, arweiniodd yn ei dro at ddyfodiad y Natsïaid.

Yn bersonol dw i ddim yn credu mai chwyddiant sy’n pryderu’r Almaenwyr. Fe fyddai ychydig flynyddoedd o chwyddiant uchel yn bris isel i’w dalu am osgoi chwalfa economaidd diwedd yr ewro. Fy nhyb personol i yw y bydd yr ECB, yn y pen draw, yn cael rhwydd hynt i argraffu arian. Ond yn y cyfamser dw i’n credu fod gwleidyddion yr Almaen yn gweld yr argyfwng ariannol fel cyfle i newid parth yr ewro er gwell. Dyw gwledydd gan gynnwys Yr Eidal a Gwlad Groeg ddim wedi bod yn gwario arian cyhoeddus yn gall ac mae’r argyfwng yn gyfle i orfodi iddyn nhw fod yn fwy darbodus. Dw i wedi darllen sawl erthygl sy’n ceisio codi bwganod am gyfnod y Natsïaid, gan gyhuddo’r Almaenwyr o geisio gorfodi eu diwylliant nhw o weithio’n galed a thalu trethi ar wledydd eraill. Ond onid yw'r rheini’n rhinweddau da beth bynnag? Os yw’r ECB yn dechrau argraffu arian cyn iddyn nhw wneud y newidiadau rheini fe fydd yn rhoi rhwydd hynt i’r Eidal, Gwlad Groeg a’r gwledydd ‘diog’ eraill ar Fôr y Canoldir i barhau i wario yn ffôl unwaith eto.

Mae yna broblemau eraill yn strwythur yr ewro sydd angen eu datrys cyn i’r ECB achub y dydd. Os yw’r gwledydd yma am rannu arian mae angen undeb ariannol hefyd fydd yn caniatáu i’r gwledydd cryfaf reoli cyllidebau'r gwledydd llai. Efallai y byddai angen rhyw fath o Drysorlys canolog fydd yn sicrhau fod pob gwlad yr un mor ddarbodus â’r Almaen, neu hyd yn oed lywodraeth ffederal. Fel arall ni fydd y problemau sylfaenol achosodd yr argyfwng yma yn diflannu, ac fe fyddwn nhw’n amlygu eu hunain unwaith eto mewn degawd neu ddau.

Y cwestiwn mawr yw hyn - a oes yna ddigon o undod gwleidyddol yn Ewrop er mwyn gallu cyflawni’r newidiadau rhain? Beth bynnag sy’n digwydd, fe fydd yr ECB yn gorfod achub y dydd yn y pen draw. Ond beth fydd yn codi o’r lludw – Unol Daleithiau Ewrop, neu ddiwedd yr ewro? 

Comments