Siarad siop

Diolch i Carl Morris am ei ymateb i'm blog diweddaraf – sef E-lyfrau 2011, recordiadau 2004. Mae’n gwneud nifer o bwyntiau da sy’n werth eu trafod yn llawn.

Un pwynt nad ydyn ni’n cydweld arno yw bod y rhan fwyaf o bobol yn defnyddio systemau’r cwmnïau mawr, gan gynnwys siop lyfrau Kindle Amazon ac iTunes Apple, yn hytrach na systemau open source.  Mae’n gofyn ar ba sail ydw i’n dweud hyn a’i fod yn “teimlo fod perchnogaeth Kindle yn isel iawn ymhlith darllenwyr Cymraeg. Efallai mae’n rhy isel i atynnu Amazon i’r farchnad Cymraeg ar hyn o bryd”.

Wel, na, does gen i ddim data yn dweud fod mwy o Gymry Cymraeg yn defnyddio system Kindle nag sy’n defnyddio systemau open source. Ond gan mai’r Kindle sy’n tra-arglwyddiaethu ar y farchnad llyfrau electronig ar hyn o bryd dw i ddim yn meddwl fod y rhagdybiaeth yn un annheg. Dw i ddim yn meddwl bod diffyg llyfrau Cymraeg ar y Kindle yma na thraw – mae sawl Cymro Cymraeg, fel fi, wedi prynu Kindle er mwyn darllen llyfrau Saesneg.

Os nad yw'r Cymry Cymraeg yn defnyddio siop lyfrau Kindle Amazon ar hyn o bryd, cynnyddu fydd y defnydd dros y misoedd a blynyddoedd nesaf – yn enwedig adeg Nadolig!

(Mae Dyfrig Jones yn gwneud pwynt da ar Twitter sef bod y Kindle yn gallu darllen ffeiliau ePub. Fel yr ydw i wedi son o’r blaen mae hynny’n wir os ydyn nhw’n cael eu trosglwyddo i fformat MOBI a’u huwchlwytho i’r ddyfais. Ond dw i ddim yn siwr a fydd gan y darllenydd cyffredin yr amynedd i fynd i dyrchu ar-lein am feddalwedd er mwyn trosi ffeiliau.)

Dw i ddim yn anghydweld o gwbwl gyda breuddwyd Carl o sefydlu ‘siop lyfrau digidol ar-lein’:

“Mae angen ‘Bleep.com o lyfrau Cymraeg’. Mae gyda ni ffans penodol, ‘sianeli’ ein hun sydd yn fodlon cefnogi’r opsiwn lleol. Does dim rheswm nawr pam mae rhaid i ni ystyried Amazon fel the only game in town. Mae opsiynau eraill NAWR. Ond bydd siop Cymreig yn neis iawn i bawb.”

Does dim rhai i ni roi ein hwyau i gyd mewn un fasged. Fyddai yna ddim byd o’i le mewn sefydlu siop o’r fath ar-lein a gweld os ydyw’n denu cwsmeriaid, ac awduron. Ond dw i’n parhau i gredu y dylid sicrhau fod llyfrau Cymraeg ar gael ar siop lyfrau Kindle Amazon gan mai dyna le mae’r farchnad lyfrau fwyaf yn bodoli ar eu cyfer nhw.

Mae’n werth cofio bod siop e-lyfrau Cymraeg sy’n annibynol o Amazon eisoes ar gael ar wefan y Lolfa. Serch hynny mae’r Lolfa yn benderfynol o sicrhau lle i’w cynnyrch ar Amazon - sy’n awgrymu yn gryf eu bod nhw’n credu y byddai cyhoeddi llyfrau Cymraeg drwy siop lyfrau Kindle yn cyrraedd cynulleidfa ehangach na’u gwerthu mewn siop ‘llyfrau Cymraeg yn unig’ ar-lein.

Dyw hynny ddim yn syndod – fel perchennog Kindle fe fyddwn i’n fwy tebygol o lawrlwytho llyfr Cymraeg gan y Lolfa drwy siop lyfrau Amazon na mynd trwy rigmarol ei drosglwyddo o ffeil ePub i Mobi. Ac mae unrhyw un sy’n berchen Kindle sydd ddim yn gwybod sut i wneud hynny wedi ei gau allan yn gyfan gwbwl.

Os yw creu siop lyfrau Cymraeg ar-lein fel sefydlu siop lyfrau annibynnol Cymraeg mewn tref, mae sicrhau lle i lyfrau Cymraeg ar Amazon fel sicrhau bod silff o lyfrau Cymraeg ym mhob cangen Waterstone’s a WH Smiths ym Mhrydain. Mae hynny oherwydd bod pobol sy’n darllen llyfrau Cymraeg hefyd yn darllen llyfrau Saesneg, a drwy sicrhau eu bod nhw i gyd ar gael yn yr un ‘siop’ fe fyddwn ni’n denu rhagor o gwsmeriaid. Os oes disgwyl i bobol fuddsoddi mewn dyfeisiau gwahanol er mwyn cael gafael ar lyfrau mewn gwahanol ieithoedd, mae’r Saesneg hyd yn oed yn fwy tebygol o ennill y dydd.

Yn ôl Carl Morris fe fyddai “gwerthu llyfrau yn uniongyrchol” yn awain at a “gadw mwy o’r arian yng Nghymru”. Ond wela’i ddim pwynt cadw 100% o’r elw os nad yw neb yn prynu dy lyfrau yn y lle cyntaf, byddai’n well cadw 40% o’r elw ond gwerthu llawer mwy.

(Efallai y gellid dadlau nad yw siop eLyfrau y Lolfa yn un cynhwysfawr ac y byddai un siop canolog sy’n gwerthu pob eLyfr Cymraeg yn gwneud mwy i ddenu’r torfeydd, ond hyd yn hyn dim ond llyfrau’r Lolfa sydd ar gael ar ffurf eLyfr a mae’n nhw’n cynrychioli tua 40% o’r farchnad lyfrau Cymraeg beth bynnag yn fy nhyb i.)

Beth bynnag, dyw Amazon heb dderbyn llyfrau Cymraeg i’w siop lyfrau eto felly mae’n berffaith bosib y bydd yr holl drafod yma’n ofer. Os felly fe gaiff Carl ei ddymuniad ac fe fydda’i yn berffaith fodlon cydweithio er mwyn sefydlu siop eLyfrau Cymraeg!

Comments