Sut beth fyddai’r Byd?

Wrth drafod tranc annisgwyl Tu Chwith ar wefan Golwg 360 sylwais ar y neges canlynol gan Martin Llywelyn Williams. Ynddo mae’n difaru na chafodd papur newydd dyddiol Cymraeg ‘Y Byd’ ei sefydlu yn 2008. Dyma fersiwn byrrach o’i neges:

‘cywilyddus’- y darlun mawr yw mai diffyg papur llydan Cymraeg dyddiol yw’r drychineb fwyaf. Nid yw marwolaeth ac angladd Tu chwith yn drychineb.
O am Guardian neu Independent Cymraeg- wel, gwell trio a methu na peidio a bod hefo’r gyts i drio o gwbl.
Cylchrediad anferth. Iwtopia Cymraeg…trist iawn, very sad.

Ymatebais â’r neges canlynol:

“O am Guardian neu Independent Cymraeg…”

Mae gan y Guardian tua 800 o newyddiadurwyr, ac wedi gwneud colled o £43.8m y llynedd er gwaethaf cylchdrediad cymharol uchel. Fe fyddai’r Byd wedi cyflogi tua chwech o newyddiadurwyr ac wedi costio tua £600,000 y flwyddyn i’w gynnal (lot o’r costau yn mynd ar y broses o’i gyhoeddi a’i ddosbarthu). Doedd y Byd byth yn mynd i fod yn ‘Guardian neu Independent’ Cymraeg. Ddim hyd yn oed yn ‘Golwg’ dyddiol o ran gwreiddioldeb y cynnwys, gan y byddai wedi bod yn rhaid trosi llawer o’r cynnwys o’r Saesneg neu o ddatganiadau oherwydd maint bychan y staff. Nid lladd ar y syniad ydw i, ond esbonio’r realiti. Mae Golwg 360 tua’r un peth ac y byddai y Byd wedi bod, o ran natur y cynnwys. Yr unig wahaniaeth yw ei fod wedi ei gyhoeddi ar y we, ac yn costio llai i’w gynhyrchu oherwydd hynny.

Cyn derbyn y neges canlynol gan Rhys Llwyd:

@Ifan Os cofiaf yn iawn roedd cynllun busnes Y Byd yn nodi y byddai ganddynt 16 o newyddiadurwyr (nid oll yn llawn-amser) wedi eu lleoli dros Gymru i gyd ond gyda’r craidd yn y Brif Swyddfa yn y canolbarth a thîm hefyd yn y Cynulliad. Tipyn gwahanol i Golwg 360 felly.

Roedd y cynllun busnes yn dibynnu hefyd ar gael tipyn mwy o gyllid drwy hysbysebion nag y mae Golwg360, fe ymddengys, yn ei gasglu.

Mae sylwadau Martin a Rhys yn gwneud pwyntiau da ac yn haeddu ymateb llawnach, ond dydw i ddim eisiau ‘herwgipio’ y drafodaeth bwysig am ddyfodol Tu Chwith ac felly am ymateb fan hyn.

I ddechrau hoffwn i ddweud fy mod i’n parhau yn gwbl gefnogol i’r syniad o sefydlu papur newydd dyddiol Cymraeg. Mae gen i sticer ‘Y Byd’ ar gefn fy nghar o hyd ac fe fydden i wedi bod wrth fy modd petai'r papur wedi gweld golau dydd. Does gen i ddim byd ond parch at ymdrechion Ned Thomas a phawb fu’n rhan o’r ymdrech i sefydlu’r papur dyddiol. Dw i’n dweud hyn rhag ofn i ambell un gael yr argraff fy mod i’n ‘cymryd ochor’ Golwg 360 ac yn lladd ar y Byd. Hybu’r cyfryngau Cymraeg yw nod pawb sy’n gweithio ar Golwg 360, pawb weithiodd ar y Y Byd a phawb sy’n rhan o’r byd cyhoeddi Cymraeg yn gyffredinol (does neb ynddo am yr arian beth bynnag!).

Ond un peth sydd wedi mynd dan fy nghroen i yw bod ryw fath o ‘fytholeg’ wedi tyfu o amgylch y Byd. Mae stori'r penderfyniad i beidio â rhoi’r arian i’r Byd yn cynnwys yr holl elfennau sydd wrth fodd y Cymry. Mae yna elfennau o frad ynddo, fel Llywelyn yng Nghilmeri, a gwleidyddion llwfr, fel yn hanes Tryweryn. Mae’r Byd ei hun bellach fel y Mab Darogan – y papur newydd dyddiol fyddai wedi arwain at ryw oes aur yn hanes cyhoeddi yn yr iaith. ‘Iwtopia Cymraeg’ fel y mae Martin yn ei ddweud uchod.

Dw i ddim am ddadlau fod y penderfyniad i beidio â rhoi’r arian i’r Byd yn un cywir neu anghywir. Beth ydw i yn anghytuno â fo yw’r ddelwedd yma sydd wedi ffurfio o’r Byd ym meddyliau’r Cymry. Petai'r Byd wedi anelu at fod yn bapur o’r un safon a’r Times, y Telegraph, neu’r Guardian, fel y mae Martin ac eraill wedi ei awgrymu, fe fyddwn i’n barod i gredu’r heip. Ond dyw cip ar y cynllun busnes gwreiddiol ddim yn rhoi’r argraff honno.

Fe fyddai 12 o newyddiadurwyr wedi cael eu cyflogi i weithio ar y papur newydd, tua hanner y rheini yn llawn amser. Fel y dywedais i uchod mae tua 800 yn gweithio ar y Guardian. Mae tua 200 yn gweithio i BBC Cymru yn unig. Yn fwy dadlennol o bosib, mae 138 yn gweithio ar y Western Mail. 138! Dros ddeg gwaith nifer y newyddiadurwyr fyddai wedi gweithio ar y Byd. Ac os ydych chi’n gofyn i’r rhan fwyaf o bobol beth maen nhw’n ei feddwl o gynnwys y Western Mail, dyw’r ymateb ddim fel arfer yn un ffafriol.

A dweud y gwir dyw 12 aelod o staff ddim ymhell o’r nifer sydd gan Golwg yn gweithio ar y cylchgrawn a’r wefan. Maen nhw, fel y byddai staff y Byd, wedi eu gwasgaru ar draws Cymru – gyda swyddfeydd yng Nghaernarfon, Llambed, ac yn swyddfa’r wasg yn y Cynulliad.

Mae’r staff yma o ryw ddeg newyddiadurwr yn cydweithio er mwyn cynhyrchu un cylchgrawn wythnosol a gwefan ddyddiol. Rydw i wedi gweithio ar y wefan a’r cylchgrawn yn y gorffennol ac yn gwybod fod eu cynhyrchu bob wythnos yn dipyn o gamp. Dyw’r newyddiadurwyr yma ddim yn gorffwys ar eu rhwyfau. Yn wir maen nhw’n gweithio fel lladd nadroedd bob dydd, drwy’r dydd.

Fe fyddai llenwi papur newydd cyfan, dyddiol (yn ogystal â gwefan dyddiol mae’n debyg) wedi bod yn llawer iawn mwy o waith. Fe fyddai yn amhosib cynhyrchu deunydd gwreiddiol i lenwi papur newydd o’r fath bob dydd drwy gyflogi 12 o newyddiadurwr yn unig. Byddai yn rhaid dibynnu i ryw raddau ar drosi cynnyrch Saesneg o wasanaethau newyddion fel y Press Association a Reuters, neu drosi datganiadau.

A bod yn gwbl realistig, fe fyddai cynnyrch terfynol y Byd wedi bod yn agosach at fersiwn dyddiol o’r ‘Cymro’ na’r ‘Western Mail’. Heb sôn am y Guardian.

Mae hynny’n cymryd yn ganiataol wrth gwrs fod y Byd wedi gallu cyflogi cymaint â hynny o weithwyr yn y lle cyntaf. Roedd y grant yr oedden nhw’n gofyn amdano, sef £600,000, tair gwaith maint grant Golwg 360. Ond yn wahanol i Golwg 360, sy'n gorfod talu braidd dim i gyhoeddi’r deunydd ar y we, fe fyddai angen argraffu a dosbarthu bob copi o'r papur newydd bob dydd. Mae £600,000 yn swnio’n lawer iawn o arian i’r gŵr cyffredin ond ym myd cyhoeddi mae’n swm bychan iawn. Fe fyddai costau argraffu a dosbarthu wedi llyncu talp sylweddol ohono.

Dw i’n tybio mai’r ateb cyffredin i hynny fyddai ‘ie, ond byddai gwerthiant/hysbysebu wedi codi arian ychwanegol, fel y mae’r cynllun busnes yn ei ddangos’.

Yn anffodus dyw cynllun busnes y Byd ddim yma na thraw. Roedd yn seiliedig ar fyd oedd yn bodoli cyn yr argyfwng ariannol. Roedd Golwg 360 yn ddigon anffodus i gael ei lansio ar ddechrau’n cyfnod mwyaf llwm posib o ran denu buddsoddiad. Dyw hyn ddim yn aflwydd sydd wedi effeithio ar y we yn unig, ond ar bob cylchgrawn a phapur newydd yng Nghymru a thu hwnt. Mae hyd yn oed y Western Mail yn ystyried rhoi’r gorau i fod yn bapur dyddiol erbyn hyn! Byddai’r Byd wedi dioddef fel pawb arall.

Ond, wrth gwrs, am na lansiodd y Byd erioed mae pawb yn cymryd yn ganiataol y byddai wedi bod yn bapur newydd o’r safon uchaf ac yn llwyddiant ysgubol. Y gwirionedd yw y byddai wedi bod yn yr un sefyllfa a phob cyhoeddiad arall o’r fath ym Mhrydain ac o amgylch y byd – yn denu beirniadaeth am ei gynnwys, yn brwydro am arian hysbysebu, yn colli darllenwyr, yn cwtogi staff, ac o bosib yn diflannu yn gyfan gwbl, fel Tu Chwith druan.

Yn anffodus oherwydd y ddelwedd sy'n parhau ym meddyliau Martin ac eraill, o bapur Cymraeg o safon y Guardian, mae sawl un i weld yn drwg licio beth sydd gennym ni, sef Golwg 360. Mae hynny’n biti o ystyried pa mor galed mae newyddiadurwyr y wefan honno wedi gweithio, gan sicrhau ei fod bellach yn wefan llwyddiannus sy’n denu miloedd o ddarllenwyr bob dydd. Fel y dywedais i, rydw i’n gwbl gefnogol i sefydlu papur newydd dyddiol Cymraeg. Ond mae’n bryd claddu chwedl y Byd unwaith ac am byth, a bod yn realistig. Neu cael eu siomi fydd hanes y Cymry Cymraeg eto fyth!

Comments

  1. Wrth wneud fy PhD ar Genedlaetholdeb un o'r pethau sy'n gwbwl greiddiol i lwyddiant a pharhad naratif genedlaethol/cenedlaetholdeb ydy parodrwydd hyrwyddwyr y naratif i ddefnyddio myths a chwedlau i gynnal y frwydr. Un o'r rhai diweddaraf y gellid ei ychwanegu i'n canon cenedlaethol ni yw'r Byd.

    Mewn un pennod o nhraethawd roeddwn i'n trafod Michael D. Jones gan fod R. Tudur Jones wedi ei ddyrchafu fel "eicon" i'r mudiad cenedlaethol. Mae haneswyr mwy diweddar wedi dangos fod MDJ yn gradur digon ansylweddol OND does dim ots am hynny, mae'r ffaith yn sefyll fod RTJ wedi llwyddo i'w ddyrchafu fel "eicon" hyd yn oed os oedd hynny yn seiliedig ar selective history. Mae defnydd doeth o selective history yn chwarae rol bwysig wrth lunio hanes y dyfodol yn arbennig wrth ystyried tynged cenedl a'i diwylliant.

    Mae'r un peth yn wir am Y Byd. Y gwir plaen yw'r hyn wyt ti wedi ei ddweud uchod. Ond yr hyn sy'n bwysig i'r naratif genedlaethol ydy'r hyn mae Martin Wilias yn cadw ei bwysleisio.

    ReplyDelete
  2. I esbonio ymhellach, y paragraff yma gan Ifan roeddwn i'n benodol yn ymateb iddo:

    "Ond un peth sydd wedi mynd dan fy nghroen i yw bod ryw fath o ‘fytholeg’ wedi tyfu o amgylch y Byd. Mae stori'r penderfyniad i beidio â rhoi’r arian i’r Byd yn cynnwys yr holl elfennau sydd wrth fodd y Cymry. Mae yna elfennau o frad ynddo, fel Llywelyn yng Nghilmeri, a gwleidyddion llwfr, fel yn hanes Tryweryn. Mae’r Byd ei hun bellach fel y Mab Darogan – y papur newydd dyddiol fyddai wedi arwain at ryw oes aur yn hanes cyhoeddi yn yr iaith. ‘Iwtopia Cymraeg’ fel y mae Martin yn ei ddweud uchod."

    Mae'n rhywbeth sy'n mynd dan groen Ifan, ond i mi mae'r naratifs fel hyn yn bwysig i ni fel Cymry.

    ReplyDelete
  3. Diolch am dy sylwadau diddorol Rhys. Rwy'n edrych ymlaen at ddarllen dy waith.

    Nid y naratifs cenedlaethol sy'n mynd dan fy nghroen i mewn gwirionedd, ond y ffaith bod 'myth' Y Byd yn golygu nad yw'r Cymry Cymraeg yn llawn werthfawrogi y 'realiti' sydd gennym ni. Er nad yw'n berffaith o bell ffordd dw i'n credu fod Golwg 360 wedi bod yn gam cyffrous ymlaen. Ond yn hytrach nag ymfalchio yn hynny mae pobol yn ei gymharu gyda 'myth' Y Byd. Maen nhw'n dweud bod marw yn gallu bod yn hwb i yrfa artist ifanc, a dw i'n meddwl fod yr un peth yn wir i raddau a y Byd! Y myth sydd wedi parhau yn hyrach na'r realiti.

    ReplyDelete
  4. At ei gilydd, mae'r byd print ac arlein Cymraeg yn 'punching above its weight'. Ymddiheuriadau- nid wyf yn siwr sut i ddweud hyn yn Gymraeg.
    Fel Cymro Cymraeg iaith gyntaf gwn yn iawn mai Saesneg ydi iaith rymusaf y byd. Yr hyn sy'n gwneud y byd Cymraeg yn ddifyr i mi ydi rhyw nod (afrealistig mi wn) o fyd llawn mor liwgar/difyr a'r hyn y gall y byd Saesneg ei gynnig.

    NT yn haeddu clod am roi cic yn nhin y byd Cymraeg. Y darlun mawr.
    Guardian neu Independent Cymraeg- wel, dim byd o'i le mewn sgwennu'n dactegol. Nod anghyraeddadwy. Ond diwylliant Cymraeg anuchelgeisiol=diwylliant diflas heb lawer o bwynt.

    'Roedd Y Byd (papur,atodiadau,gwefan) yn addo bwrlwm prifwyl 52 wythnos y flwyddyn. Addewid seicolegol pwysig.

    Bwrlwm, diwylliant yn ffrwtian, heip, cwyno...pe bai neb yn cwyno ar ol penderfyniad creulon PC, y glymblaid yna byddai hyn yn sefyllfa bryderus iawn.

    Nid cwyno dibwrpas. Mae diwylliant lleiafrifol angen mymryn o densiwn. Heb fywiogrwydd mae'r peth yn mynd yn farwaidd. Rhaid symud ymlaen-ond nid anghofio yr hyn a ddigwyddodd.

    ReplyDelete
  5. "'Roedd Y Byd (papur,atodiadau,gwefan) yn addo bwrlwm prifwyl 52 wythnos y flwyddyn. Addewid seicolegol pwysig."
    Fe fyddwn i wedi bod wrth fy modd yn gweld papur newydd dyddiol. Ond ar yr un pryd, gan wybod yr adoddau oedd ganddyn nhw, fyddwn i ddim wedi disgwyl gormod.

    Y peryg gyda'r heip yw ei fod yn creu disgwyliadau anghyraeddadwy. Dw i'n amau mai rhai o'r bobol (e.e. Martin) sy'n cwyno fwyaf am dranc y Byd fyddai wedi eu siomi fwyaf pe bai wedi ymddagos.

    O ran 'bwrlwm prifwyl' 52 diwrnod yr wythnos, weeeel dw i ddim yn siwr am hyn. Y rheswm mae'r Eisteddfod mor fwrlymus yw bod 75% o ddiwylliant y Cymry Cymraeg wedi ei wasgu mewn i un wythnos! Mewn gwirionedd gweddol brin yw'r nofelau, albymau, ayyb newydd sy'n cael eu rhyddhau yn y Gymraeg - tua 4-5 bob mis. A dweud y gwir mae Golwg, sy'n wythnosol, a Barn, sy'n fisol, rhyngddyn nhw'n llwyddo'n weddol gyfyrddus i roi sylw i bron i bob dim sy'n cael ei gyhoeddi yn y Gymraeg.

    ReplyDelete
  6. Barn- dwi'n cytuno hefo llawer o sylwadau DGJ yn ystod y flwyddyn (a mwy am wn i) ddiwethaf.
    A diolch am y blog yma.

    ReplyDelete

Post a Comment