Yr Argraff Gyntaf ar Kindle!


Wrth bori siop Amazon heddiw sylwais fod Yr Argraff Gyntaf, yn ogystal â sawl nofel arall gan y Lolfa, bellach ar gael ar y Kindle! Wyddwn i ddim pryd y digwyddodd hyn ond mae’n sicr yn gam cyffrous ymlaen i’r cyfrwng, ac mae’n anrhydedd gweld fy nofel i ymysg y cyntaf sydd ar werth yno.


Digwydd bod rydw i newydd gael tocyn £50 i’w wario ar y Kindle, a bydd rhai o’r llyfrau Cymraeg uchod yn sicr ar dop y rhestr! Fe fuodd Euron Griffith draw yn darllen rhan o’i nofel Dyn Pob Un i ni ym Mhrifysgol Bangor ac roedd yn ddoniol iawn ac yn sicr werth ei brynu.

Yn anffodus ni fyddaf yn prynu e-lyfr Yr Alarch Du... am fy mod i newydd brynu copi caled o’r siop!

Comments

Post a Comment