Achub yr Iaith Gymraeg


Saunders Lewis
Yn dilyn nodi pen-blwydd 50 mlynedd darlith Tynged yr Iaith, Saunders Lewis, mae’r rhithfro, y radio ac S4C wedi bod yn ferw o drafodaeth ynglŷn â dyfodol yr iaith. Ymysg yr heriau sy’n wynebu’r iaith sydd wedi bod dan drafodaeth mae; mewnfudwyr, diffyg swyddi yn gorfodi i bobol adael bröydd Cymraeg, pobol sy’n dweud nad ydi eu Cymraeg yn ddigon da, pobol sy’n dweud nad ydi Cymraeg pobol eraill yn ddigon da, diffyg hawliau i siaradwyr yr iaith, gormod o bwyslais ar hawliau i siaradwyr yr iaith a dim digon ar sicrhau ei fod yn iaith fyw ar lawr gwlad, ayyb, ayyb...

Os yw’r problemau sy’n wynebu’r iaith yn niferus mae’r awgrymiadau ynglŷn â sut i’w achub yn fwy niferus byth.

Ond yn hytrach na ffraeo ymysg ein gilydd, beth am ystyried atebion eithafol fyddai yn achub yr iaith unwaith ac am byth? Dyma ambell i gynnig (tafod yn y boch)...

Pawb i symud i Wlad yr Iâ

Mae 300,000 o bobol yn byw yng Ngwlad yr Iâ. Mae 600,000 o siaradwyr Cymraeg. Mater bach fyddai goresgyn y Llychlynnwr a sefydlu ein hiaith a’n diwylliant ein hunain yno. Gwladychiaeth? Goroesiad y cymhwysaf, meddaf fi.

Dewis amgen fyddai dod o hyd i lecyn amhoblog o wlad fawr a gwag, e.e. Rwsia, Awstralia, Canada, neu barhau da’r gwaith da yn yr Ariannin, a sefydlu yno.

Mudiad Magu Mwy

Mae’n dalcen caled braidd ceisio argyhoeddi mewnfudwyr i ddysgu Cymraeg. Mae’n llawer haws magu plant i fod yn Gymry glan gloyw, sy’n caru’r iaith ac yn mynychu’r Eisteddfod yn flynyddol. Yr unig ateb felly yw i’r Cymry Cymraeg gael mwy o blant bob blwyddyn na sydd o fewnfudwyr. Dylai saith neu wyth plentyn i bob pâr wneud y tro.

Y Côr-an

Un ffactor sy’n sicrhau llwyddiant parhaol yr iaith Arabeg yw ei fod wedi ei gysylltu’n unionyrchol â llyfr sanctaidd y Mwslim, y Coran. Mae’r grefydd Formonaidd a Seientoleg yn profi nad oes unrhyw beth i’n hatal ni rhag creu ein crefydd ein hunain o’r newydd. Felly beth am greu crefydd sy’n cynnwys amodiad bod rhaid i’r llyfr sanctaidd gael ei ddarllen yn Gymraeg, fel yn achos y Coran? Gyda’r holl ffwdan am newid hinsawdd mae’n hen bryd ail-sefydlu ryw fath o Neo-Baganiaeth fydd yn denu’r hipis hygoelus yn eu miloedd. Roedd crefydd yn hollbwysig i achub y Gymraeg yn y 18fed ganrif, fe allai fod yn fanteisiol unwaith eto.

Rhoi’r gorau i siarad Cymraeg

Wedi’r cwbl, os ydyn ni i gyd yn rhoi’r gorau i siarad yr iaith, fydd yna ddim iaith ar ôl i’w achub, a bydd y broblem wedi ei ddatrys. A ni fydd ein plant ni’n ymwybodol o’r iaith yn y lle cyntaf ac yn cario baich ei ddiogelu ar eu hysgwyddau am weddill eu hoes. A bydd Cymru yn sicrhau annibyniaeth am na fydd yr iaith yn atal y di-Gymraeg rhag cefnogi pleidiau cenedlaetholgar! Eureka!

Sefydlu Taffia go iawn

Mae nifer o Gymry di-Gymraeg dan yr argraff fod cabál cefnog o grachach Cymraeg yn rheoli Cymru o’r tu ôl i’r llenni. Yn anffodus rydyn ni’n debycach i sach o datws na Goldman Sachs. Ond beth pe bai’r Cymry Cymraeg yn sefydlu Taffia go iawn? Wedi’r cwbl, os allai’r ‘global banking elite’ sydd wedi gwneud shwd gawlach o bethau gymryd drosodd y byd, mater bach fyddai cymryd drosodd un wlad fechan... bwahaha...

Unrhyw syniadau eraill?

Comments