West is Best?

Mae’r Western Mail eisoes wedi ei feirniadu o bob cwr am ei dudalen flaen y bore ‘ma, sef darn barn sy’n mynegi anfodlonrwydd y papur ynglŷn â gwario £400,000 ar gyfieithu cofnodion y Cynulliad. Roedd yr ‘hashtag’ #westernfail ymysg y mwyaf poblogaidd ar draws Prydain gyfan y bore ma, ac mae’n amlwg eu bod nhw wedi llwyddo i dynnu blewyn o drwyn sylwebwyr ar draws y sbectrwm gwleidyddol. Roedd pawb o’r gweinidog sydd â chyfrifoldeb am y Gymraeg, Leighton Andrews, i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, wedi mynegi eu hanfodlonrwydd. Mae hyd yn oed ambell sylwebydd sydd fel arfer yn aros yn ddiduedd, gan gynnwys golygydd materion Cymreig y BBC, Vaughan Roderick, wedi beirniadu’r papur.

Rhaid cyfaddef, petai yna rywun yn rhoi £400,000 yn fy llaw i ac yn gofyn i mi ei wario ar hybu’r iaith Gymraeg, nid cyfieithu cofnodion pob un o bwyllgorau’r Cynulliad fyddai fy newis cyntaf. Fe fyddwn i’n debygol o’i wario ar yr Eisteddfod, neu addysg Gymraeg mewn ysgolion, neu efallai y byddwn i’n bod yn hunanol a’i wario pob ceiniog ar Golwg 360, fel eu bod nhw’n gallu cyflogi dwsin yn rhagor o newyddiadurwyr.

Ond y ffaith yw nad oes digon o arian yn cael ei wario ar y Gymraeg i ddechrau. Fel  y dywedodd Bwrdd yr Iaith cyn cau, mae angen gwario o leiaf dwywaith cymaint ar yr iaith er mwyn gweld unrhyw effaith mesuradwy. Dydw i ddim yn gweld unrhyw beth o’i le ar y llywodraeth yn gwario arian mawr er mwyn achub yr iaith nawr, gan mai diolch i ymyrraeth llywodraethau’r canrifoedd diweddaraf y mae yn y fath stad yn y lle cyntaf.

Dydw i ddim yn gwybod i ba raddau y bydd penderfyniad y Cynulliad i gyfieithu popeth yn sicrhau bod cwmnïau yn dilyn eu hesiampl nhw - wedi’r cwbl, diwedd y gân yw’r geiniog i’r cwmnïau yma, a dim ond deddfu sy’n mynd i’w gorfodi nhw i ddefnyddio’r iaith. Ond mae’n bwysig bod y Cynulliad yn gosod cynsail, ac yng nghyd-destun yr arian anferth y maen nhw’n ei wario ar brosiectau eraill dim ond arian poced yw £400,000. Dim ond 66 ceiniog y flwyddyn o arian pob siaradwr Cymraeg ydyw ynny,  ac rydyn ni’n talu miloedd mewn trethi fel pawb arall.

Mae’n werth crybwyll hefyd bod cofnod y Cynulliad yn sail i ddatblygu system gyfieithu Google Translate, a allai yn y hir dymor olygu na fydd angen talu unrhyw un i gyfieithu unrhyw beth o’r Gymraeg i’r Saesneg, neu vice versa, byth eto.

Serch hynny, rydw i’n cytuno bod lle i drafod gwario £400,000 ar gyfieithu cofnodion y Cynulliad. Fe allai’r Western Mail fod wedi cyflwyno’r ffeithiau gerbron, gofyn i wleidyddion gyfiawnhau’r gost, ac efallai comisiynu ambell i golofn gan bobol oedd o blaid ac yn erbyn. Y broblem oedd mai darn barn gan y Western Mail ei hun oedd hwn, ar y dudalen flaen, yn awgrymu bod y fath wariant yn anghredadwy. ‘What planet are our Assembly Members living on?!’ yw sgrech aflafar y pennawd. Nid op-ed yn ddwfn yng nghrombil y papur oedd hwn, ond ymgais bwriadol i ymosodiad ar yr iaith Gymraeg ei hun a lliwio barn eu darllenwyr.

Mewn ffordd roedd yn fy atgoffa o ymosodiad undeb Unite ar Leanne Wood, oedd mor llawdrwm a llym roedd yn adlewyrchu’n waeth ar yr ymosodwr nac arni hi. Yr eironi yw bod erthygl wych wedi ymddangos gan Matt Withers yn y Western Mail yn ymosod ar Unite:

... the attack on Ms Wood is at best misguided. Not the doing of it per se – politics is all about taking out opponents – but the ground they’re choosing to play it on... the language, the innuendo, the bombast – is precisely the sort of thing which puts normal people off politics in the first place....

Onid ellir dweud yr un peth am erthygl tudalen flaen y Mail? Enw erthygl Matt Withers oedd ‘Playing the woman not the ball’. Ond beth am ddefnyddio siaradwyr yr iaith Gymraeg fel pêl-droed gwleidyddol?

Dyw agwedd gwrth-Gymraeg y papur ddim yn syndod llwyr i mi. Rydw i’n cofio, blynyddoedd maith yn ôl, cwrdd ag un o weithredwyr cwmni Trinity Mirror pan oeddwn i’n newyddiadurwr dan hyfforddiant yn swyddfeydd un o bapurau’r cwmni yng ngogledd Lloegr. Sais oedd y dyn yma ond roedd yn gyfarwydd â’r papur, a pan ddeallodd fy mod i’n gallu siarad Cymraeg roedd o’n holi’n frwd am yr iaith. Soniodd hefyd ei fod yn synnu at agwedd gwrth-Gymraeg golygyddion y Western Mail, a’u bod nhw, yn ei eiriau o, yn ‘anglophiles’! Dydw i ddim yn gwybod a yw’r un golygyddion wrth y llyw heddiw, ond mae’r erthygl heddiw yn gwneud i rhywun feddwl...

Dyfodol y Western Mail

Mae’n debyg mai dim ond tua 20,000 o bobol sy’n darllen y papur erbyn hyn, ac ef allai orfod cau o fewn tua phum mlynedd. Yr un peth sy’n cadw’r Western Mail i fynd yw hysbysebion dwyieithog gan y sector gyhoeddus, gan gynnwys y Cynulliad. Eironi arall yw mai awdur yr erthygl ddadleuol yn y Western Mail heddiw yw un o’r rheini sydd wedi bod yn rhybuddio bod y papur newydd mewn perygl. Yn ôl Martin Shipton, mae’r perchnogion wedi bod yn rhoi’r pwyslais ar wneud elw tymor-byr ar draul newyddiadura ac enw da papurau. Mae hefyd wedi galw ar y Cynulliad i ymyrryd er mwyn atal dirywiad y Western Mail.

Ond efallai fod ei erthygl ef wedi gwneud mwy o niwed i’r papur na thoriadau’r cwmni rheoli. Ai dyma’r pwynt y mae’r papur yn neidio’r siarc? Mae’n amlwg bod y papur wedi cymryd gambl fan hyn, gan benderfynu bod yna fwy o ddarpar-ddarllenwyr gwrth-Gymraeg â nhw na rhai sydd o blaid yr iaith. Ond hyd yn oed wedyn, drwy ddatgan eu barn mor groch, maen nhw’n peryglu gelyniaethu cyfran helaeth o’u darllenwyr.

Yn wahanol i nifer rydw i’n gweld llawer o werth yn y Western Mail. Er gwaetha’r toriadau yn nifer y staff mae gan y papur ddigon o newyddiadurwyr i allu dal y Cynulliad i gyfrif, ac ymchwilio i sawl mater arall a fyddai yn cael eu hanwybyddu gan y cyfryngau Llundeinig. Gwendid y papur yw ei amharodrwydd rhyfedd i gefnogi pethau Cymreig, gan gynnwys ein hiaith a’n diwylliant, tu hwnt i’r tîm rygbi cenedlaethol. A hynny er bod pob pôl piniwn yn dangos bod gan fwyafrif poblogaeth y wlad agwedd ffafriol tuag atyn nhw. Heb y Western Mail, y cwbwl sydd gennym ni yn Saesneg yw’r BBC. Er gwaethaf safon uchel gwasanaeth y BBC, dyw hi ddim yn iach cael ein newyddion i gyd o un ffynhonnell.

Rydyn ni i gyd yn gyfarwydd â’r ymgyrch am bapur cenedlaethol Cymraeg, ond rydw i o’r farn bod angen papur cenedlaethol Saesneg erbyn hyn. Er ei fod yn honni ei fod yn bapur cenedlaethol, papur y de-ddwyrain yw’r Western Mail, ac yn sgil eu 'splash' nhw heddiw mae gen i amheuon a ydyn nhw hyd yn oed yn cynrychioli barn poblogaeth yr ardal honno. Mae gennym ni’r Daily Post yn y gogledd a chybolfa o bapurau llai ar wasgar ar hyd y canolbarth a’r de-orllewin. Mae angen un papur cenedlaethol go iawn fydd yn creu un ‘cymuned ddychmygol’ ledled Cymru, ac yn cefnogi iaith a diwylliant y genedl, yn hytrach na'r tîm rygbi yn unig.

Sut fyddai modd talu am hyn? Wel, drwy gasglu tanysgrifwyr, yn yr un modd ac y gwnaeth y Byd.  Ond o ystyried mai yn Saesneg fyddai'r papur yn bennaf, rydw i’n gobeithio y byddai’r dasg ychydig yn haws. Ac os yw’r Cynulliad eisiau cyfrannu £400,000,wel, fyddwn i ddim yn gwrthod...

Comments

  1. Y broblem gyda'r ddadl hon yw nad oes unrhyw ateb cywir, ac mae pob dadl ynglŷn â "moesoldeb" vs "cost ariannol" yn creu rhaniadau heb ddod ag unrhyw oleuni.

    O edrych o'r tu allan, mae £400,000 i'w weld yn lot i gyfieithu o un iaith i'r llall pan nad oes neb sydd ddim yn deall yr iaith gyntaf.

    Eto i gyd, mae'r ddadl ynglŷn â dyletswydd moesol y cynulliad hefyd yn ddilys. Problem erthygl y Western Mail oedd ei fod yn olygyddol tudalen flaen yn esgus ei fod yn dweud gwirionedd di-ddadlau. Nid "creu trafodaeth" yw hynny, eithr lladd trafodaeth yn farw gorn trwy'i throi'n ddadl du a gwyn.

    Dylen ni fod yn cael y drafodaeth sydd eisiau'i chael ynglŷn â phlant a phensiynwyr Cymraeg yn gorfod derbyn triniaeth meddygol / gwasanaethau cymdeithasol ac ati trwy gyfrwng iaith estron oherwydd bod neb yn becso dam - cofier mae hyd yn oed y BMA yn cydnabod bod *rhaid* cael rhai gwasanaethu yn Gymraeg. Ond mae stori'r BMA wedi'i chladdu o dan y nonsens diweddara nawr. Am gyd-digwyddiad diddorol!

    ReplyDelete

Post a Comment