Tîm GB a’r anthem


Ryan Giggs
Dydw i ddim yn credu bod tîm pêl-droed dynion y Deyrnas Unedig wir yn peryglu dyfodol Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Ond dydw i ddim o blaid cael tîm o’r fath yn cystadlu oherwydd:

a) Ni ddylai pêl-droed fod yn gamp Olympaidd yn y lle cyntaf. Mae’n cael digon o sylw fel arall ac fe ddylai’r Gemau Olympaidd fod yn gyfle i gampau eraill gael y sylw.

b) Fe ddylai Cymru gael cystadlu yn y Gemau Olympaidd yn dîm ar wahân. Os yw Hong Kong yn cael cystadlu ar wahân i China (a hithau bellach yn ranbarth o’r wlad honno) rwy’n siwr y gallai Cymru, sydd yn wlad, wneud hynny.

Beth bynnag, mae yna dipyn o ffrae wedi codi ynglŷn â’r ffaith nad yw chwarewyr Cymru yn fodlon canu ‘God Save the Queen’ cyn y gemau. Rhaid cyfaddef bod y stwr y mae hyn wedi ei greu yn y Daily Mail et al bron a bod werth creu’r tîm yn y lle cyntaf. Serch hynny dydw i ddim yn siwr pam bod y chwaraewyr wedi cymryd y safiad yma; pam dewis cynrychioli y Deyrnas Unedig yn y lle cyntaf, ac wedyn peidio canu’r anthem? Mae fel derbyn OBE ac yna gwrthod ysgwyd llaw y Frenhines.

Yn sgil y ddadl yma mae ambell i sylwebydd ar Twitter wedi dadlau mai God Save the Queen yw anthem genedlaethol y Cymry. Mae hynny’n wir, mewn ffordd. Ond mae gan Gymru dri anthem. Hen Wlad fy Nhadau, God Save the Queen, ac Ode to Joy yr Undeb Ewropeaidd.

Ond y cwestiwn yw, mewn gwirionedd, pa anthem y mae mwyafrif trigolion y wlad wedi penderfynu uniaethu â hi? Yr ateb amlwg yw Hen Wlad fy Nhadau.

Mae cael y sylwebydd Ceidwadol Iain Dale yn dweud wrtha'  i mai God Save the Queen yw fy anthem i, yr un fath a fi’n dweud wrth Iain Dale mai Ode to Joy yw ei anthem ef. Hynny yw, does dim modd gorfodi unrhywun i uniaiethu ag anthem. Dyw Iain Dale ddim am fod yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd, a dydw i ddim am i Gymru fod yn rhan o’r Deyrnas Unedig. Felly nid Ode to Joy yw anthem Iain Dale, a nid God Save the Queen yw fy anthem i. Simples.

Comments

  1. Oes datganiad wedi ei wneud gan y chwaraewyr yma mai 'safiad' ydy o?

    Neu falle dydyn nhw ddim yn gwybod y geiriau (sdim lot o bwynt dysgu anthem mond am llond llaw o gemau wedi'r cyfan)

    Neu falle bod yr emosiwn o gynrhychioli Lloegr, sori, Prydain, yn ormod iddynt, a'u bod ofn dechrau canu rhag ofn i'r dagrau ddechrau llifo...

    ReplyDelete

Post a Comment