Rhoi bywyd newydd i Brydeindod?

Wrth i fi ysgrifennu hwn mae seremoni gau'r Gemau Olympaidd yn mynd rhagddo. Rhaid dweud fy mod i wedi mwynhau’r pythefnos diwethaf yn fwy na’r disgwyl. O’r seremoni agoriadol ymlaen, mae wedi bod yn dipyn o sioe. Y tensiwn, drama, y dagrau... a’r cyfan mewn slo-mo HD, fel nad ydyn ni’n methu unrhyw elfen o’r campau.

Oedd y cyfan werth £10 biliwn? Wel, mae’r llywodraeth wedi gwastraffu llawer mwy o arian ar bethau sydd wedi rhoi llawer llai o bleser i bobol. Ond fe fyddwn i wedi mwynhau’r Gemau yn union yr un faint pe baen nhw wedi eu cynnal ym Mharis, Moscow, Efrog Newydd neu Madrid. Wedyn byddai rhaid i rywun arall wario £10 biliwn ar y peth...

Does gen i ddim byd yn erbyn y Gemau Olympaidd eu hunain. Fy ngwrthwynebiad i yw’r modd y mae wedi ei ddefnyddio i hybu hunaniaeth Brydeinig mewn modd cwbl ddigywilydd. Roedd y seremoni agoriadol yn ddigon o hwyl, ond mae’r seremoni cau ‘ma yn edrych fel lansiad ymgyrch Better Together ar y funud.  Efallai mai dyna ydi o...

Rhaid cyfaddef bod yr ymgyrch yma o blaid ‘Tîm GB’ wedi bod yn un llwyddiannus iawn, yn y tymor byr o leiaf. Roeddwn i yno fel pawb arall yn cefnogi Jessica Ennis a Mo Farah. Mae’r iwnion jac wedi ei adfer o fod yn symbol BNPaidd yn rhywbeth sy’n cynrychioli undod cymdeithas. Roedd llwyddiant Mo Farah yn symbolaidd o hynny. Os all ddyn Mwslimaidd gafodd ei eni yn Somalia cyn symud i Brydain yn naw oed fod yn Brydeiniwr rhonc, mae’n gwneud i’r gwahaniaethau rhwng Cymru, Lloegr, a’r Alban ymddangos yn ddigon tila i’r rhan fwyaf o bobol.

Ond mae’n rhy gynnar i benderfynu beth fydd effaith tymor hir hyn ar e.e. yr ymgyrch annibyniaeth yr Alban. Fe allai’r balchder newydd yma mewn Prydeindod ddiflannu fel rhech dafad yn y gwynt. Neu fe allai gyniwair fel... wel, rhech dafad mewn ystafell glos.

Gellir dadlau bod yr ymgyrch o blaid Prydeindod wedi saethu eu bazooka mawr £10 biliwn nawr, a does dim byd arall ar ôl ganddyn nhw. Dyma haf mawr Prydeindod, ac fe fydd y cyfan lawr allt o hyn ymlaen.

Rydw i’n siŵr y bydd yna ryw bolau piniwn cynorthwyol gan YouGov yn ystod yr wythnosau nesaf allai helpu i ateb y cwestiwn yma...

Comments

  1. Fel bastard diflas, rwyf wedi osgoi'r rhan fwyaf o'r Limpix. Er, mae'r seremoni (ofnadwy!) ymlaen ar deledu'r aelwyd ar hyn o bryd.

    Rwyt yn gywir mai dyma yw haf fawr Prydeindod. Mae'n siwr bydd unrhyw bolau'n y dyfodol agos yn dangos cynnydd yn yr ymdeimlad o hunaniaeth Brydeinig. Ond rwy'n cytuno nad oes arwyddocad hir-dymor yn perthyn i hynny.

    Er mor syrffedus yw'r holl beth ar hyn o bryd, ac am fis neu ddau i fod, bydd y cyfan wedi'i anghofio'n fuan. Mae'n siwr mai taflegryn nesaf bazooka'r Prydeinwyr fydd plentyn anochel cyntaf Wilz a Cêt.

    ReplyDelete
  2. Mase Cêt yn hesb ma'n debyg. Dyna ddarllenais i yng nghylchgrawn Hiliw.

    ReplyDelete
  3. http://www.snp.org/media-centre/news/2012/aug/poll-finds-olympic-boost-scottish-independence

    ReplyDelete

Post a Comment