Araith David Jones ar ddatganoli



Yr AS David Jones

Mae Ysgrifennydd Cymru, David Jones, wedi ymyrryd yn y ddadl dros ddatganoli mewn araith heno. Fel y disgwyl, mae'n gwrthwynebu rhagor o ddatganoli, ond mae ei resymeg dros wneud hynny braidd yn rhyfedd yn fy nhyb i. Mae modd darllen yr holl beth fan hyn ond dyma flas ohono...


But in general terms I do not believe that Wales needs to accrue identical powers to those that Scotland has or that it is desirable for it to do so. The differences between the history, geography, institutions and culture of Wales and Scotland mean that different arrangements for devolution in the British nations make sense.


Dyw hyn ddim yn gwneud unrhyw synnwyr i mi. Dydw i ddim yn gweld sut y mae gorffennol llywodraethol Cymru yn berthnasol o gwbwl. Rydyn ni’r Cymry Cymraeg yn cael ein cyhuddo o fod ag obsesiwn ynglŷn â’r gorffennol, ond mae’n ymddangos bod cenedlaetholwyr Prydeinig yn cael trafferth troi cefn arno hefyd.

Beth sy’n bwysig yw beth sydd orau i Gymru yn y presennol, a’r dyfodol. Bu Cymru yn rhan o Loegr am gyfnod. Beth am hynny? Roedd Gwlad Groeg yn arfer bod yn rhan o Ymerodraeth yr Otomaniaid, y Ffindir yn arfer bod yn rhan o Rwsia, Gweriniaeth Iwerddon yn arfer bod yn rhan o’r Deyrnas Unedig. Dyw ‘dyma fel yr oedd pethau’ erioed wedi bod yn rheswm da dros beidio eu newid nhw.

Mae crybwyll y gwahaniaeth rhwng diwylliant Cymru a’r Alban hefyd yn benderfyniad rhyfedd. Ai’r awgrym fan hyn yw bod diwylliant Cymry yn debycach i ddiwylliant Lloegr nag yw diwylliant yr Alban a Lloegr? Neu yn ddiwylliant lai datblygiedig nag un yr Alban? Mae’r ddau awgrym braidd yn chwerthinllyd.

O ran sefydliadau, all unrhyw un ddadlau nad yw Cymru wedi bod ar ei hennill o gael amgueddfa, llyfrgell, eglwys, ayyb, ei hun? Ai’r awgrym yw bod yr Alban wedi bod ar ei cholled o gael y pethau yma yn hirach na Chymru? Ta nad yw’n bosib i Gymru gael sefydliadau yr un mor gryf a’r Alban?
All rhywun esbonio beth yn union mae David Jones yn cesio ei awgrymu fan hyn?


So yes, Wales’s relationship with England has been long, entwined and complex. In many ways it is subtler than Scotland’s relationship with its southern neighbour, with a Union founded on conquest rather than negotiated agreement - many of Wales’s most famous ancient monuments stand testament to that fact.


Mewn geiriau eraill – ‘mae gennych chi lai o hawl i’r grym yma, am eich bod chi wedi colli brwydr 700 mlynedd yn ôl. Rydw i’n gallu gweld Castell Conwy o ffenest swyddfa fy etholaeth a mae hynny’n profi’r peth’.


The second way in which Wales is closely linked with England is economic. England is Wales’s biggest trading partner, and strong trading links across the border are central to the Welsh economy. As I mentioned earlier, most of the principal routes run east to west.


Sut yn union y mae hyn yn ddadl yn erbyn rhagor o rymoedd i Gymru? Ni fyddai rhagor o rymoedd yn cau’r ffin rhwng y ddwy wlad. Mae hwn yn swnio’n debycach i ddadl o blaid Iwerddon unedig, na dadl yn erbyn rhagor o rymoedd i senedd ddatganoledig Cymru.

Mae David Jones yn mynd ymlaen fel hyn. Mae’n ddadl digon tila yn y bôn, a byddai wedi bod yn well petai wedi dweud y gwirionedd plaen, sef ‘Rydw i’n genedlaetholwr Prydeinig, a dydw i ddim yn hoffi’r syniad o ddarnau o’r genedl yr ydw i’n ei garu yn llithro i ffwrdd’. Mae hynny’n ddigon teg, yn fy marn i. Petai Ynys Môn yn dewis ymwahanu o Gymru yfory fe fyddai nifer o genedlaetholwyr Cymreig yr un mor drist i’w weld yn mynd. Nid eu bod nhw’n rhy hoff o’r lle - ond mae’n rhan o’u tiriogaeth nhw! Dyna feddylfryd y cenedlaetholwr.

Dydw i ddim yn genedlaetholwr yn ystyr cyffredin y gair. Rwy’n credu mai hap a damwain yw’r ffiniau sy’n gwahanu gwledydd, ac nad oes mwy o gysylltiad rhyngaf fi a rhywun o Bowys ac sydd â rhywun o’r Amwythig. Rwy’n credu bod diwylliant y Cymry Cymraeg yn un gwerth ei gynnal. Rydw i yn cefnogi datganoli, oherwydd fy mod i’n credu bod Prydain Fawr fel gwlad wedi ei ganoli yn ormodol ar Lundain, ac nad yw llywodraeth San Steffan yn ei gyfanrwydd yn rhoi wfft am Gymru.

Yn y pen draw mae’n dod i lawr i’r ffaith y byddai yn well gen i weld grymoedd dros Gymru yn nwylo’r rheini sydd yn malio taten am y wlad, nag yn nwylo’r rheini sydd ddim.

Comments