Ymddiswyddiad Leighton Andrews



Leighton Andrews
Dim ond neithiwr y traddododd Ysgrifennydd Cymru araith yn cwyno nad oedd yna ddigon o ‘rough and tumble’ yn y Senedd, a’i fod yn le diflas o ganlyniad. Roedd cyfaddef fy mod i wedi dadlau yr un peth yn y gorffennol. Ond gwta 24 awr yn ddiweddarach, mae’r pleidiau wedi ymateb i’r her, a bellach rhaid dweud mai dyma un o wythnosau mwyaf diddorol yn hanes y Cynulliad y tu hwnt i’r etholiadau bob pedair blynedd.

Does yr un ymddiswyddiad wedi bod mor arwyddocaol ers i Alun Michael roi’r ffidil yn y to 12 mlynedd yn ôl.

Ond er ei fod yn braf gwel rywfaint o gyffro yn y Cynulliad, nid yw’n beth da colli un o weinidogion mwyaf peniog Llywodraeth Cymru. Roeddwn i’n parchu ymdrechion Leighton i godi safonau addysg yn y wlad yma. Ac er nad ydw i’n teimlo ei fod wedi gwneud digon i geisio hybu defnydd yr iaith Gymraeg, roedd yn braf gweld ei frwdfrydedd amlwg ynglŷn â thechnoleg ddigidol yn yr iaith (pwnc yr ydw i hefyd yn ymddiddori ynddo!). Gellid bod wedi gwneud yn llawer gwaeth.

Ond a fydd Leighton Andrews yn hapus ar y meinciau cefn? Efallai y bydd yn hapus i aros yno nes herio Leanne Wood yn etholiad 2016 – fe fydd honno’n frwydr haws i’w ennill os yw’n gallu gwrthwynebu cau ysgolion ac ysbytai yn y cyfamser.

Ond a allai Leighton fod yn llygadu swydd Carwyn Jones ei hun? Roedd Rhodri Morgan ar Newyddion 9 heno’n lled-awgrymu bod ei olynydd wedi gwneud smonach o bethau yn gorfodi ymddiswyddiad Leighton Andrews.

Yn absenoldeb unrhyw her etholiadol ddifrifol i’r Blaid Lafur, efallai mai rhwygiadau mewnol yn y blaid honno yw’r peth agosaf i gyffro go iawn y gwelwn ni am flynyddoedd eto!

Comments