Don’t mention the Wylfa



Wylfa A

Fe fum i’n chwerthin yn braf dros fy museli wrth ddarllen colofn Gwilym Owen yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos yma. Mae’n dechrau bron a bod fel stori newyddion, cyn cymryd arno godi pryderon difrifol am Wylfa B, ac yn gorffen drwy herio pob un o ymgeiswyr y pleidiau yn yr isetholiad yno i ddatgan beth yw eu barn nhw am y ddarpar-atomfa. Y diben wrth gwrs fel unrhyw ddarn o gysylltiadau cyhoeddus gwleidyddol yw rheoli’r naratif - yn yr achos yma drwy dynnu sylw'r boblogaeth a’r cyfryngau at Wylfa B, sy’n bwnc trafod mor anghyfforddus i Blaid Cymru wrth iddynt geisio dal eu gafael ar etholaeth Cynulliad yr ynys.

Ar yr un pryd ag y mae’r Blaid Lafur yn ceisio creu trafodaeth, mae Plaid Cymru yn benderfynol o’i gau i lawr. Wele gofnod diweddaraf Blogmenai er enghraifft. Y brif ddadl yw nad oes gan y Cynulliad unrhyw reolaeth dros y penderfyniad i adeiladu Wylfa B, ac felly mae unrhyw drafodaeth yn wastraff amser.

Rwy’n cael hyn yn safbwynt rhyfedd iawn i Blaid Cymru. Mae’r blaid byth a beunydd yn trafod pethau nad oes gan Gymru eto hawl drostyn nhw. Wrth holi pleidiwr am godi trethi, neu adeiladu peilonau trydar ar draws Ynys Môn a Phowys, neu'r Teulu Brenhinol, dydw i erioed wedi cael yr ateb, “Does gennym ni Gymry gostyngedig ddim grym dros y fath bethau - dim ond y mandariniaid yn Whitehall a ŵyr am y fath bynciau aruchel...”

Y gwir yw bod Wylfa B yn bwnc y dylid ei drafod, hyd yn oed mewn etholiad i’r Cynulliad. Yn gyntaf oherwydd bod grymoedd y Cynulliad yn newid o hyd. Mae Wylfa ei hun wedi bod yn cynhyrchu trydan ers 1971. Fe allai Wylfa B dal fod ar ei thraed mewn Cymru annibynnol, heb son am un lle mae’r Cynulliad wedi llwyddo i gipio’r grym dros orsafoedd sy’n cynhyrchu mwy na 100MW o drydan.

(Efallai nad byw mewn byd cyn datganoli mae’r Blaid Lafur felly, fel y mae Blogmenai yn ei awgrymu, ond mewn un sy’n cydnabod bod datganoli yn broses yn hytrach na digwyddiad - safbwynt mae Plaid hefyd yn ei arddel fel arfer.)

Yn ail, mae gan wleidyddion ddylanwad y tu hwnt i’r pethau rheini y maen nhw’n gallu pleidleisio yn uniongyrchol o’u plaid ac yn eu herbyn. Fydd Albert Owen ddim yn pleidleisio o blaid neu yn erbyn adeiladu gorsaf niwclear ar Ynys Môn - yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni a Newid Hinsawdd sy’n penderfynu. A yw hynny’n ddadl dros beidio trafod y mater mewn Etholiad Seneddol yn Ynys Môn? Na, achos mae pawb yn gwybod bod gan aelod etholedig ddylanwad dros beth sy’n digwydd yn ei etholaeth, ac mae hynny’n wir am Aelod Cynulliad hefyd.

Hoffwn i weld trafodaeth go iawn ynglŷn â Wylfa B yn rhan o’r isetholiad. Ac os nad yw pobl yr ynys wir yn malio taten yr un ffordd neu’r llall, fel mae ambell un wedi ei awgrymu, beth sydd o’i le ar wneud eu safbwynt yn glir?

---------------------------------------------------------------

Diweddariad: Mae Dyfrig Jones yn gwneud pwynt arall da iawn ar Twitter na wnes i mo'i ystyried: "Pwysig nodi fod materion sy'n gysylltiedig a Wylfa - e.e. hyfforddiant, addysg, tai, gwasanaethau - i gyd yn faterion datganoledig."

Comments

  1. A ddylai'r Aifft a Syria fod yn bwyntiau trafod yn is-etholiad Mon ar gyfer y Cynulliad hefyd, felly?

    ReplyDelete
  2. Wrth ymgyrchu ar Sir Fôn AC fel brodor o'r Ynys dw i wedi syrffedu a'r lol yma. Credaf yn gryf fod pobl Môn (mwyafrif) O BLAID WYLFA B. Dydy'r issue ddim wedi codi cymaint ag yr oeddwn wedi rhagdybio. Rydyn ni wedi syrffedu hefyd (efallai ddim yn yrvachos yma) efo pobl sydd ddim yn byw ar yr Ynys yn dweud wrthym beth ddylen ni wneud.

    ReplyDelete
  3. Gyda llaw dw i erioed wedi clywed am Wylfa A? Mae pobl lleol yn ei alw yn Wylfa.

    ReplyDelete
  4. Anon 1 - Na, pam?

    Anon 2 - Dydw i ddim yn credu mai mater i Ynys Môn yw hyn yn unig, gan fod agwedd y pleidiau at ynni niwclear oblygiadau i Gymru gyfan.

    PS jôc oedd Wylfa A.

    ReplyDelete
  5. Dydy ynni dros 50MW ddim yn dod o dan gymhwysedd y Cynulliad, ac felly beth bynnag fo barn unrhyw blaid neu eu hymgeisydd ar y mater ni fyddant yn medru dylanwadu'r mater o gwbl.

    Yndy mae'n fater sy'n berthnasol i drigolion Mon, ond mae Syria yn hefyd. Mae yna drafodaethau ar y gweill yn ddyddiol pa unnau ddylai'r Llywodraeth ymyrryd, fydd yn golygu trethdalwyr Mon yn talu am y weithred.

    Mae'n fater o bwys mawr.

    Felly hefyd trethiant. A ddylid codi neu leuhau trethiant? Beth yw barn y pleidiau?

    Beth am y 'Bedrrom Tax' ydy hyn wedi dod I fyny ar y stepan drws? Y ddylai'r ymgeiswyr ei drafod?

    Dydy'r pleidiau ddim yn trafod y materion yma am nad yw yn dod o dan gymhwysedd y Cynulliad, mae'n nhw'n trafod materio y gall yr un sy'n gael ei ethol ddylanwadu ar.

    Pam felly y dylid trafod Wylfa B yn fwy na'r materio eraill yma?

    ReplyDelete
  6. Helo Anon. Mae'n wir bod y materion eraill yna yn rai pwysig ac rwy'n siwr bod bob math o faterion neilltuol yn codi ar stepen drws. Does dim y fath bath a 'materion y dylid eu trafod' a 'materion na ddylid eu trafod'. Ond mae rhai materion yn bwysicach na'i gilydd ac y dylid eu trafod mwy nag eraill. Gan bod Wylfa ar Ynys Mon mae'n amlwg yn fwy perthnasol i'r is-etholiad na'r rhyfel yn Syria, dywed. Gyda llaw rydw i wedi cael mwy nag un dartganiad gan PC ar fater y Bedroom Tax felly dyna bwnc arall y maen nhw'n fwy na pharod i mynd i'r afael a hi, er nad ydyn nhw'n gallu gwneud ryw lawer am y peth!

    ReplyDelete
  7. Rwy'n cytuno efo ergyd dy nege, paid a fy nghamddeall, rwy'n gresynu nad yw PC wedi bod yn gryfach ar bwnc niwclear (gwrth).

    Ond rhesymeg yr hyn sy'n cael ei ddweud yr ydw i'n cael trafferth efo.

    O ddilyn rheswm yr hyn rwyt ti (ac eraill) yn ei ddweud, does yna ddim byd pwysicach i'w drafod ar Ynys Mon na Wylfa B. Fyswn i'n dweud fod pethau yr un mor bwysig i'w drafod, ond sydd ddim yn cael yr un teilyngdod, a hyny oherwydd gemau gwleidyddol plentynaidd y Blaid Lafur llwfwr gachgiaidd.

    Fel y soniais uchod mae trethiant yn hynod bwysig, ond does yna ddim trafod ar a ddylid cynyddu neu leihau cyfradd treth ar incwm.

    Mae mater y Bedroom Tax - un y mae'r blaid Lafur wedi bod yn gwbl anghyson arno. Rwyt yn dweud fod PC wedi cyhoeddi sawl datganiad ar y mater - wrth gwrs eu bod nhw, mae'n fater sydd o dan gyhwysedd San Steffan ac mae ganddyn nhw 3 AC a 2 Arglwydd yno.

    Ond erys y pwynt ein bod ni yng nghanol ymgyrch etholiad ac materion cymhwysedd y Cynulliad sydd i fod o dan y chwyddwydr.

    Mae hen ddigon o mser i drafod Wylfa B. Plaid Lafur sy'n ceisio gosod yr agenda yn y fan hyn a niweidio eu gwrthwynebwyr. Yn anffodus trafodaethau fel hyn sydd yn rhoi ocsigen i'w gemau bach tila nhw. Dwi ddim yn gweld yr un drafodaeth ar flogiau neu yn nhudalennau papurau Cymru am anghysondebau lu y Blaid Lafur (e.e. Bedroom tax).

    ReplyDelete
  8. "O ddilyn rheswm yr hyn rwyt ti (ac eraill) yn ei ddweud, does yna ddim byd pwysicach i'w drafod ar Ynys Mon na Wylfa B."

    Nid dyna ydw i'n ei ddweud o gwbl - un ymysg sawl pwnc i'w drafod ydyw, ac nid y pwysicaf o bellffordd. Yr honiad na ddylid ei drafod o gwbl ydw i'n ei herio.

    "Plaid Lafur sy'n ceisio gosod yr agenda yn y fan hyn a niweidio eu gwrthwynebwyr. Yn anffodus trafodaethau fel hyn sydd yn rhoi ocsigen i'w gemau bach tila nhw."

    Dydw i ddim o blaid nac yn erbyn Plaid na Llafur, felly dydw i ddim yn malio taten yn hynny o beth. Serch hynny, fe fyddwn i'n awgrymu y byddai Llafur yn ei chael hi'n anos gwneud 'issue' o Wylfa pe bai Plaid yn gwbl agored ynglyn a'u safbwynt ar y mater. Rwy'n gweld bod Rhun wedi ymweld a Wylfa a datgan ei safbwynt yn glir o blaid heddiw felly mae'n amlwg yn cytuno.

    ReplyDelete

Post a Comment