Sylwadau pytiog ar etholiadau Ewrop


Dyma ambell i sylw yn dilyn canlyniadau etholiadau Ewrop neithiwr... dim ond synfyfyrio ydw i fan hyn, does dim sail academaidd o gwbl!

Mae sylw drwg yn well...

Roedd UKIP wedi eu taro gan bennawd negyddol ar ôl pennawd negyddol. Ond roedd cyfanswm yr ymdriniaeth wedi argyhoeddi sawl un eu bod nhw’n blaid arwyddocaol ac y byddai pleidleisio o’u plaid yn gyrru neges benodol i’r sefydliad gwleidyddol. Does dim pwynt galw enwau ar blaid os ydyn nhw’n rhannu pryderon canran sylweddol o’r etholwyr - bydd yr ymosodiad yn gwneud i bobl yn uniaethu yn gryfach â’r blaid yn hytrach nag yn llai.

... na dim sylw o gwbl

Mae cefnogwyr Plaid Cymru yn tueddu i bryderu am eu strategaeth cyfathrebu. Ond os nad yw’r neges yn cyrraedd yr etholwyr does dim llawer o ots beth yw’r cynnwys. Rydw i’n dilyn nifer o siaradwyr Cymraeg ar Twitter ac felly yn clywed llawer iawn gan Blaid Cymru – ond ychydig ydw i’n ei glywed drwy’r cyfryngau prif lif. Yr unig beth ydw i’n cofio ei weld drwy gydol yr ymgyrch oedd ymosodiad Leanne Wood ar UKIP, a’r unig reswm y cafodd hwnnw cymaint o sylw oedd oherwydd bod Dafydd El wedi ei thanseilio.

Dylanwad San Steffan

Mae gan etholiadau Ewrop ac etholiadau’r Cynulliad yr un broblem. Ychydig iawn yw’r ymdriniaeth o faterion Cymreig na Ewropeaidd yn y wasg, ac felly mae pobl yn pleidleisio ar sail gwleidyddiaeth San Steffan. ‘Gyrru neges’ yw’r nod bob tro, yn hytrach na mynegi barn a phenderfyniadau gwleidyddol y pleidiau yn y sefydliadau penodol mae’r etholiad yn ymwneud â nhw.

Mae yna lawer o gwyno nad yw gwleidyddiaeth Cymru yn cael sylw yn y wasg Lundeinig. Ar yr un pryd mae yna lawer o gwyno fod yna wagle yn y cyfryngau yng Nghymru. Dylai cenedlaetholwyr felly fynd ati i lenwi’r gwagle hwnnw gyda’u cyhoeddiadau eu hunain.

Effaith y We 2.0

Rwy’n credu bod y refferendwm ar annibyniaeth yn yr Alban a thwf UKIP yn arwydd o rym y we 2.0. Er bod y mwyafrif llethol o’r cyfryngau yn gwrthwynebu annibyniaeth i’r Alban, ac annibyniaeth i’r DU o Ewrop, mae’r rhyngrwyd yn cynnig modd i bobl ddod o hyd i eraill sydd o’r un farn â nhw. O dan bob erthygl gwrth-UKIP yn y Guardian a’r Telegraph roedd miloedd o sylwadau yn gwrthwynebu ac yn tanseilio awdurdod y cyhoeddwr gwreiddiol – heb son am ddylanwad Twitter, Facebook, a rhywdweithiau cymdeithasol eraill.

Pam nad yw Plaid Cymru wedi gallu denu cefnogaeth drwy’r cyfryngau cymdeithasol yn yr un modd? Ydi cefnogwyr y Blaid yn tueddu i sgwrsio yn Gymraeg ar Twitter ayyb, gan gau eraill allan o’r drafodaeth? Ta ai’r broblem yw nad oes gan y Blaid un nod amlwg cyraeddadwy y maen nhw’n eu harddel a all ysbrydoli pobl (digon llugoer ydyn nhw ar bwnc annibyniaeth)?

Nid yw UKIP yn ‘un-Welsh’ wedi’r cwbl

Mae nifer o Gymry yn hoffi meddwl ein bod ni’n wlad llawer mwy adain chwith na Lloegr. Roedd Siôn Jobbins yn awgrymu yn ei lyfr The Phenomenon of Welshness mai ryw fath o barhad o gred Cymry Oes Fictoria eu bod nhw’n fwy Cristnogol na gweddill Prydain yw hyn. Hynny yw, efallai nad oes gennym ni unrhyw rym gwleidyddol, ond o leiaf fe allwn ni hawlio’r tir uchel moesol!

Yn wahanol i’r Alban, lle yr oedd cefnogaeth UKIP dipyn yn is na gweddill Prydain, fe wnaeth y blaid yn dda iawn yng Nghymru. A hynny yn y Fro Gymraeg a Chymoedd y De, gan awgrymu bod pobl sy’n ystyried eu hunain yn Gymru yn gyntaf, ac yn siaradwyr Cymraeg, yn fodlon eu cefnogi.

Dylid rhoi pwysau ar UKIP dros y Gymraeg

Digon ‘cymysg’ yw record UKIP ar unrhyw beth Cymraeg neu Gymreig - roedden nhw o blaid diddymu’r Cynulliad nes yn ddiweddar, mae eu taflenni etholiadol yn uniaith Saesneg, ac roedd eu Haelodau Seneddol Ewropeaidd ymysg yr unig rai a bleidleisiodd yn erbyn rhagor o hawliau i ieithoedd lleiafrifol.

Ond os yw UKIP wir wedi derbyn cefnogaeth Cymry Cymraeg, yna wrth i’r blaid ddatblygu o bleidlais brotest i blaid wleidyddol aeddfed dylid rhoi pwysau arni i barchu’r Gymraeg a sefydliadau Cymreig. Nawr yw’r amser i wneud hyn, tra bod polisïau a hunaniaeth y blaid yn haws dylanwadu arnynt.

Mae rhai o’r materion mae UKIP yn eu codi yn rhai dilys

Mae’n amlwg bod UKIP yn denu cefnogaeth nifer o bobl hiliol. Nid yw’n anodd dyfalu i le y diflannodd pleidlais y BNP ddydd Iau. Ond mae atyniad y blaid yn eang ac mae wedi ei chreu o gyfuno sawl elfen o’r pleidiau eraill, fel ryw fath o fwystfil Frankenstein erchyll. Mae yno gefnogaeth dosbarth gweithiol sosialaidd, ceidwadaeth, a rhyddfrydiaeth, ynghlwm â’u gweledigaeth.

Serch hynny er gwaetha’r galw enwau, mae angen i wleidyddion fynd i’r afael â mater mewnfudo a gadael yr undeb Ewropeaidd. Mae yna ddadleuon cryf i’w cynnig o’u plaid – ond mae pawb heblaw am Nick Clegg, chwarae teg iddo, fel petaen nhw’n ofn rhoi cynnig arni. Sut mae mewnfudo yn hybu'r economi? Hyd yn oed os mae’n hwb i GDP - a yw yn codi GDP y pen? Ac ai GDP yw’r peth pwysicaf yn y pen draw wedi’r cwbl? Mae yna ddiffygion mawr â’r modd y mae’r Undeb Ewropeaidd yn cael ei weithredu hefyd. Beth sy’n cael ei wneud i datrys rhain?

Nid pawb sy’n pryderu am y materion hyn sy’n gwneud hynny am nad ydyn nhw’n hoffi meddwl am Rwmaniaid yn symud i mewn drws nesa.  

A fydd UKIP yn diflannu i’r pedwar gwynt?

Mae sawl sylwebydd eisoes wedi holi ai Etholiad Ewropeaidd 2014 fydd ‘Peak Farage’. Fe fydd y blaid yn ei chael hi’n anodd iawn ennill sedd yn Etholiad Cyffredinol 2015. Yn waeth byth iddyn nhw, fe allai ennill un sedd, a bydd Nigel Farage yn eistedd yno am bum mlynedd yn edrych yn hollol ynysig a di-rym – ac yn tyfu’n fwy o ran o’r ‘sefydliad’ bob dydd. Mae gan UKIP y ‘big mo’ ar hyn o bryd ond mae datblygu plaid yn ddigon mawr i ennill seddi ar draws y genedl yn cymryd degawdau. Roedd sylwadau'r ASE Nathan Gill yn y Western Mail y bydd UKIP yn herio am seddi yng Nghymoedd y De yn nonsens. Bydd UKIP yn targedu tua 10 sedd yn yr Etholiad Cyffredinol, y mwyafrif yn nwyrain Lloegr.

Yr eironi wrth gwrs yw bod rhannau helaeth o Ewrop yn unfryd wedi pleidleisio o blaid pleidiau sy’n wrthwynebus i’r rhannau eraill. Wrth i economi'r Deyrnas Unedig, ac Ewrop yn ei gyfanrwydd, ddechrau gwella dros y blynyddoedd nesaf, mae’n debygol y bydd llawer o’r cynddaredd gwrth-Ewropeaidd yn dechrau pylu.

Mae cyfle da gan y Blaid yng Ngheredigion

Mae’n amlwg bod chwalfa sylweddol wedi bod yng nghefnogaeth y Democratiaid Rhyddfrydol, yng Ngheredigion ac ar draws Cymru a’r Deyrnas Unedig. Fe ddaethon nhw’n ail i Blaid Cymru yng Ngheredigion yn Etholiad Ewrop 2009, ond yn bedwerydd eleni. Mae’n anodd diseddu ymgeiswyr unigol, yn enwedig un mor amlwg boblogaidd a Mark Williams, sydd â mwyafrif sylweddol. Ond dyma’r cyfle os fuodd un erioed. Gallai fod yn un darn o newyddion da i PC ar noson etholiad 2015 – yn enwedig os ydyn nhw’n colli Arfon!

Comments

  1. Ofn yw arf y adain dde. Felly mae angen hyder a hiwmor i'w curo nhw. Mae Plaid yn rhy ddiddwyll a difrifol. Angen llunio tîm o feirdd, awduron a digrifwyr i helpu cyfathrebu neges Plaid a dychanu safbwyntiau eraill. Oes rhai? Agwedd Taoaidd braidd: er mwyn dangos eu bod nhw o ddifri mae'n rhaid i Blaid ymlacio a chwerthin mwy. Hyder bobl bach, hyder.

    ReplyDelete

Post a Comment